Newyddion S4C

Cneifio defaid er cof am ffermwr yn codi £46,000 i Ambiwlans Awyr Cymru

John Owen

Daeth cneifwyr defaid at ei gilydd i godi swm o £46,272 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gynnal diwrnod o gneifio er cof am ffermwr lleol.

Cynhaliodd Cneifio Cylch ddigwyddiad cneifio defaid yn y Bull Inn yn Llannerchymedd, Ynys Môn, er cof am aelod o'r grŵp, y ffermwr John Owen.

Dechreuodd y digwyddiad drwy gynnal cystadleuaeth cneifio defaid, ac yna arwerthiant elusennol a gododd fwy na £33,000 ar ei ben ei hun.

Mae'r grŵp wedi bod yn cynnal digwyddiadau cneifio defaid ers dros ddau ddegawd.

Dechreuodd yn wreiddiol yn 1992 fel parti gadael i gneifwyr o Seland Newydd wedi iddynt dreulio'r haf yn cneifio ar Ynys Môn.

Ers y mileniwm, mae'r digwyddiad wedi dod yn ddigwyddiad codi arian blynyddol gyda phobl yn teithio o bob man i'w fynychu.

Image
Y criw yn cneifio defaid
Y criw yn cneifio defaid

Dywedodd Alun Jones, Cadeirydd Cneifio Cylch ac un o aelodau gwreiddiol y grŵp, fod y digwyddiad wedi llwyddo y tu hwnt i ddisgwyliadau.

Roedden ni’n gwybod y byddai'n ddigwyddiad da am ein bod wedi cael seibiant oherwydd Covid-19 ac yna fe wnaethon ni golli un o aelodau gwreiddiol y grŵp, John Owen, 18 mis yn ôl,” meddai.

“Roedd John yn ffermwr poblogaidd iawn yn yr ardal ac roedd yn hoffus iawn a gwnaethom benderfynu cynnal y diwrnod er cof amdano.

“Roedd pawb yn awyddus i wneud yn siwr mai hwn fyddai'r gorau hyd yma. Roedd hefyd yn gefnogwr mawr Ambiwlans Awyr Cymru, felly gwnaethom benderfynu rhoi'r holl arian i'r elusen.”

Ond dywedodd ei fod wedi ei “syfrdanu” wrth gyfrif yr arian a darganfod eu bod wedi codi £46,275.

‘Llawn hwyl’

Daeth tua 700 o bobl i’r diwrnod a oedd yn gystadleuaeth cneifio defaid yn wahanol i'r arfer.

“Mae'n anodd iawn dod o hyd i gneifwyr defaid erbyn hyn, felly fe wnaethon ni ddefnyddio beic gwthio i helpu i droi'r peiriant cneifio,” meddai Alun Jones.

“Gofynon ni i aelodau o'r gynulleidfa i gymryd rhan drwy eu gwahodd i feicio a helpu i gneifio'r defaid yn ogystal â chael un dyn yn ei wneud yn y ffordd draddodiadol â llaw.

“Roedd yn llawn hwyl, ac roedd yn ymddangos fel petai pawb yn cael amser da. Er gwaethaf y gostyngiad mewn cneifwyr defaid, roedd y cneifio yn dal yn agwedd bwysig iawn o'r digwyddiad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.