Newyddion S4C

Cyhuddo dau yn dilyn ymosodiad ar ddyn yn Llandrindod

Heddwas

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo yn dilyn ymosodiad ar ddyn yn Llandrindod ddydd Sadwrn diwethaf.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Hillcrest Rise yn y dref toc wedi 20.20 yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael "anafiadau difrifol".

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, ac mae'n dal i fod yno mewn cyflwr sefydlog.

Mae Ricco Douglas, dyn 25 o Orllewin Canolbarth Lloegr, wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, ac mae Calum Samuel, 23 o Landrindod wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i lofruddio.

Fe wnaeth y ddau ymddangos yn y llys ddydd Gwener.

Mae dau berson arall sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a all fod o gymorth i'r ymchwiliad.

Mae modd cysylltu gyda nhw drwy ffonio 101, e-bostio 101@dyfed-powys.police.uk neu drwy eu cyfryngau cymdeithasol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.