Nigel Walker yn ymddiswyddo o Undeb Rygbi Cymru ond Gatland yn aros
Mae Nigel Walker wedi gadael ei swydd gydag Undeb Rygbi Cymru yn dilyn cyfnod anodd i Gymru dros y misoedd diwethaf, ond fe fydd Warren Gatland yn parhau fel prif hyfforddwr.
Collodd Cymru bob un o'u gemau yng nghyfres yr Hydref eleni, gan olygu bod Cymru wedi colli 12 gêm ryngwladol o'r bron.
Fe fydd Warren Gatland yn parhau yn ei swydd fel prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol ar gyfer y Chwe Gwlad.
Ond mae'r undeb wedi cyhoeddi bod Cyfarwyddwr Rygbi Gweithredol Cymru, Nigel Walker wedi ymddiswyddo o'i swydd.
Cafodd Nigel Walker ei benodi'n Prif Weithredwr dros dro ym mis Ionawr 2023 wedi i Steve Phillips ymddiswyddo.
Arhosodd yn y swydd honno tan i Abi Tierney gael ei phenodi'n barhaol saith mis yn ddiweddarach.
Yn ystod cyfnod Nigel Walker wrth y llyw daeth Undeb Rygbi Cymru dan y lach wedi honiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn y sefydliad.
Yn ogystal roedd anghydfod rhwng yr undeb a'r chwaraewyr dros gytundebau tîm y dynion.
Heriau
Wrth drafod ei benderfyniad, dywedodd Walker: “Nid yw’r penderfyniad hwn wedi’i wneud yn ysgafn gan fy mod wedi caru fy amser yn Undeb Rygbi Cymru yn fawr, ond mae’n bryd cael arweinydd newydd i’r adran berfformiad.
“Nid yw fy nghyfnod i wedi bod heb ei heriau ac rydym wedi cyflawni llawer iawn ond, yn y pen draw, mae’n iawn fy mod yn cael fy marnu ar berfformiadau ar y cae ac mae ein dau dîm hŷn wedi cael y 12 mis diwethaf yn hynod o anodd ac felly rwy’n credu. nawr yw'r amser iawn i mi gamu i lawr.
“Mae hwn yn gyfnod sy’n symud yn gyflym, rydym wedi lansio prif strategaeth newydd ar gyfer rygbi Cymru sydd wedi’i chysylltu’n annatod â Chytundeb Rygbi Proffesiynol newydd sydd i’w lofnodi’n fuan rhwng URC a’n pedwar clwb rhanbarthol.
“Rydym yn newid y strwythur rheoli yn ein tîm perfformiad uchel mewn perthynas â charfan uwch Merched Cymru, gyda phrif hyfforddwr newydd yn cael ei benodi’n fuan."
Ychwanegodd: "Yng ngêm y dynion hŷn, mae llawer o graffu ar rôl ein hadran perfformiad uchel a sut y gall ei systemau a’i strwythurau sicrhau llwyddiant pob un o’n timau proffesiynol orau.
“Bydd yr holl ffrydiau gwaith hyn, pan fyddant wedi’u cwblhau, yn helpu i alluogi llwyddiant i rygbi Cymru ac rwy’n falch o’r cyfraniadau rwyf wedi’u gwneud ym mhob gofod."