Car wedi ei yrru i ganol torf mewn marchnad Nadolig yn yr Almaen
Mae o leiaf dau berson, gan gynnwys plentyn, wedi marw a nifer wedi'u hanafu ar ôl i gar yrru i ganol torf mewn marchnad Nadolig yn yr Almaen.
Dywedodd awdurdodau'r Almaen mewn datganiad bod o leiaf 68 o bobl wedi'u hanafu, gyda 15 ohonynt wedi'u hanafu'n ddifrifol.
Roedd y digwyddiad wedi cymryd lle yn ninas Magdeburg yn nwyrain y wlad ddydd Gwener.
Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos nifer o bobl wedi eu hanafu ar lawr, gyda'r gwasanaethau brys yn cynnig cymorth gerllaw.
Mae adroddiadau lleol yn dweud bod "ymgyrch eang" yn cael ei chynnal gan yr heddlu yn y ddinas.
Y gred yw bod dyn wedi ei arestio yn dilyn y digwyddiad.
Mae lluniau fideo o'r digwyddiad yn dangos car yn cael ei yrru ar gyflymder i mewn i'r dorf.
Mae dinas Magdeburg i'r gorllewin o Berlin, a dyma yw prifddinas talaith Saxony-Anhalt.
Mae ganddi boblogaeth o tua 240,000.
Llun: Dörthe Hein / Getty Images