Frankie Morris: Arestio dyn ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus

Frankie Morris: Arestio dyn ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wrth i'r heddlu ymchwilio i ddiflaniad dyn yn ardal Bangor.
Nid yw Frantisek “Frankie” Morris, 18 oed o Landegfan, Sir Fôn, wedi cael ei weld ers 2 Mai.
Mae dau berson arall, dyn a dynes, hefyd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Y tro diwethaf i Mr Morris gael ei weld oedd ar gamera ger y Vaynol Arms ym Mhentir ddydd Sadwrn, 1 Mai.
Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau o geir, gan apelio ar y gyrwyr i gysylltu gyda'r llu i helpu gyda'u hymchwiliadau.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn: "Hoffwn yn awr wneud apêl bellach i yrwyr y ceir yn y delweddau atodedig ddod ymlaen, oherwydd efallai y bydd ganddynt wybodaeth hanfodol a fydd yn ein cynorthwyo gyda’n hymholiadau.
"Oherwydd yr ymchwiliad parhaus, bydd y ffordd o Bont Felin, Pentir sy’n mynd tuag at Waen Wen ar gau nes clywir yn wahanol. Cynghorir modurwyr a’r cyhoedd i osgoi’r ardal a defnyddio llwybrau amgen.
"Os gallwch chi ein cynorthwyo, cysylltwch â ni yn https://mipp.police.uk/operation/60NWP19A03-PO1 lle bydd eich neges yn cyrraedd ein tîm ymchwilio."