Newyddion S4C

2 Sisters: Tasglu'n cwrdd i geisio sicrhau dyfodol y safle yn Llangefni

03/02/2023

2 Sisters: Tasglu'n cwrdd i geisio sicrhau dyfodol y safle yn Llangefni

Mae tasglu wedi cwrdd ddydd Gwener gyda'r "prif nod" o geisio cadw ffatri 2 Sisters yn Llangefni ar agor. 

Fe wnaeth y cwmni gyhoeddi ddiwedd Ionawr eu bod yn cynnal ymgynghoriad ar gau'r safle, gan fygwth dros 700 o swyddi ar yr ynys. 

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni fod adolygiad o’r safle wedi dangos nad oedd y ffatri’n gynaliadwy.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd tasglu'n cael ei ffurfio "ar unwaith" er mwyn trafod dyfodol y safle ac unrhyw gynlluniau cymorth ar gyfer gweithwyr y ffatri. 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru cwrdd ag aelodau o Lywodraeth y DU, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyngor Ynys Môn, 2 Sisters Ltd a'r undeb lafur Unite. 

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod oedd "partneriaid eraill a fydd yn gallu cynghori a llywio camau gweithredu mewn perthynas ag effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach y cyhoeddiad."

Yn sgil y cyfarfod, dywedodd Vaughn Gething fod y tasglu yn  "ailddatgan ei gefnogaeth lawn i'r gweithwyr ac i'r cymunedau ym Môn a Gogledd Cymru ar ôl y newyddion trychinebus.

"Ymrwymodd yr holl aelodau i weithio’n gyflym, a bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd dros yr wythnosau nesaf.

"Cytunwyd mai’r amcan pennaf oll, yw ymchwilio i ffyrdd newydd o sicrhau dyfodol y ffatri a'r swyddi yn Llangefni.

"Ochr yn ochr â hynny, gwnaeth y partneriaid adduned i gydweithio i ddeall goblygiadau rhanbarthol ac ehangach y cyhoeddiad ac i gynnig pob cymorth posibl i'r gweithlu."

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C nos Iau, dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, mai "prif nod" y tasglu yw cadw'r safle ar agor. 

"Mae'r tasglu'n gyfle i'r ddwy lywodraeth a ni [Cyngor Môn] a'r holl bartneriaid allweddol 'na i ddod at ein gilydd er mwyn llunio ein rhaglen cefnogaeth," meddai. 

"Yn amlwg y brif nod ydy cadw'r ffatri yn agored a diogelu'r 730 o swyddi 'na.

"Ond law yn llaw mae'n rhaid i ni edrych ar y gwaith cefnogi os nad ydy'r ffatri yn gallu cael ei diogelu a neud yn siŵr bod y gweithwyr 'na yn cael cyfleoedd gwaith, cyfleoedd hyfforddi a.y.b.. bod nhw yn gallu byw ar yr ynys gyda'r gefnogaeth 'na.

"Y gwir obaith ydy bod ni'n medru uno gyda'n gilydd er lles y bobl sy'n cael eu heffeithio yn 2 Sisters."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.