Darlith ym Mangor yn edrych eto ar frwydr ‘hanesyddol’ y Brenin Arthur
Bydd darlith ym Mhrifysgol Bangor yn edrych eto ar sail hanesyddol brwydr oedd, yn ôl ffynonellau o’r cyfnod, yn cynnwys y Brenin Arthur.
Mae’r Athro Peter Field yn dadlau fod y Brenin Arthur yn ffigwr hanesyddol a fu’n brwydro yn erbyn yr Eingl-sacsonaidd.
Fe fydd ei ddarlith ym Mhrifysgol Bangor ar 8 Chwefror yn nodi pumed pen-blwydd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol.
“Roedd y Brenin Arthur yn arweinydd yn y rhyfel rhwng y Brythoniaid a’r goresgynwyr Eingl-sacsonaidd yn y bumed ganrif,” meddai’r Athro Peter Field.
“Brwydr Badon oedd ei fuddugoliaeth fwyaf. Er ei bod bellach yn angof, mae ei heffeithiau yn dal i fod gyda ni.”
Mae dyddiad a lleoliad y frwydr allweddol hon wedi achosi cryn benbleth i arbenigwyr y cyfnod.
Bydd yr Athro Field yn cyflwyno ei ddamcaniaeth ynglŷn â’r union leoliad, pa bryd a sut y brwydrwyd y frwydr, ac am bwy oedd Arthur.
‘Buddugoliaeth’
Ar y noson bydd cyfle i weld detholiad o lyfrau prin o gasgliadau Arthuraidd, mewn arddangosfa arbennig wedi ei churadu gan yr Athro Raluca Radulescu, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan.
"Mae brwydr Badon yn allweddol i fuddugoliaethau Arthur yn Historia Brittonum, sef gwaith gan Nennius, mynach o’r 9fed ganrif,” meddai Raluca Radulescu.
“Hon yw buddugoliaeth olaf Arthur yn erbyn y Sacsoniaid, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i sawl awdur ffuglen a hanes.”
Mae Canolfan Astudiaethau Arthuraidd, Prifysgol Bangor yn gyfnewidfa ymchwil ryngwladol.
Nod y ganolfan yw caniatáu i ysgolheigion academaidd ac ymchwilwyr lleyg ddod ynghyd i rannu arbenigeddau ar y chwedlau Arthuraidd.
Mae’r ganolfan yn cynnwys deunydd print, llawysgrifol a gweledol o bob cyfnod.
Llun: Y Brenin Arthur a'r Athro Peter Field. Llun ar y dde gan Brifysgol Bangor.