Dyn o Abertawe yn euog o lofruddio dyn arall wedi ymosodiad yng Ngorseinon
Mae dyn o Abertawe wedi ei gael yn euog o lofruddio dyn arall yng Ngorseinon.
Fe wnaeth Christopher Cooper, 39 oed, fwrw Kelvin Evans yn ei ben gyda'i ddwrn y tu allan i Westy'r Station ar 26 Mai.
Roedd Mr Evans yn anymwybodol ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty, ond gwaethygodd ei gyflwr a bu farw’n ddiweddarach ar 26 Mehefin.
Plediodd Cooper yn euog i ddynladdiad, ond mae bellach wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.
Mae partner Cooper, Catherine Francis, 54 oed o Lanelli, hefyd wedi ei chael yn euog o gynorthwyo troseddwr i'w atal rhag cael ei arestio.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt: “Mae trais Christopher Cooper wedi arwain at ddyn yn colli ei fywyd.
“Ni fydd teulu’r dioddefwr byth yn anghofio eu dioddefaint trawmatig.”
Bydd Christopher Cooper a Catherine Francis yn cael eu dedfrydu ar 3 Ionawr.