Newyddion S4C

Mabli Cariad Hall: Gohirio dedfrydu menyw wedi iddi gael ataliad posib ar y galon

22/11/2024
Mabli Hall

Mae gwrandawiad i ddedfrydu menyw am achosi marwolaeth baban drwy yrru'n beryglus ger mynedfa ysbyty wedi ei ohirio wedi i'r diffynnydd ddioddef "ataliad posib" ar y galon.

Roedd Bridget Carole Curtis, 70, o Fegeli yn Sir Benfro i fod i wynebu gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe brynhawn dydd Gwener.

Ond yn y llys ddydd Gwener, fe wnaeth y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad gadarnhau fod Ms Curtis wedi cael "ataliad bosib" ar y galon yn ystod oriau man bore diwrnod yr achos.

Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg am driniaeth, meddai'r bargyfreithiwr. Does dim gwybodaeth bellach am ei chyflwr.

Penderfynodd y barnwr y byddai'r gwrandawiad dedfrydu bellach yn cael ei gynnal ar 5 Rhagfyr.

Roedd Ms Curtis eisoes wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth Mabli Cariad Hall drwy yrru’n beryglus mewn gwrandawiad llys ym mis Medi.

Bu farw Mabli, oedd yn wyth mis oed, ar 25 Mehefin y llynedd wedi gwrthdrawiad y tu allan i fynedfa Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ar 21 Mehefin.

Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a’i throsglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, ond bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.