Ysgol Gyfun Gŵyr: Sioc rhieni am bris trip ysgol 'rhyfeddol o ddrud' i Abu Dhabi

Mae rhiant plentyn ysgol uwchradd wedi rhannu ei "sioc" am bris taith ysgol.
Mae Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe, wedi dweud ei bod yn bwriadu mynd â myfyrwyr blynyddoedd 9-11 i Dubai ac Abu Dhabi ar daith wythnos o hyd y flwyddyn nesaf.
Dywed yr ysgol ei bod yn bwriadu cynnig cyfleoedd i'r myfyrwyr chwarae rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a chriced yn ystod y daith chwaraeon.
Mae’r daith yn cael ei chynnig i’r grwpiau blwyddyn a oedd wedi methu allan fwyaf yn ystod pandemig Covid-19.
'Agored i bob disgybl addas'
Mewn llythyr i rieni, dywedodd yr ysgol bydd y daith Addysg Gorfforol yn costio £2,300 - £2,550 yr un i’r disgyblion.
Mae’r llythyr, sydd wedi cael ei rannu ar gyfrif Twitter yr ysgol, yn darllen: “Ysgrifennwn atoch i’ch hysbysu bod yr Adran Addysg Gorfforol yn bwriadu trefnu taith chwaraeon i Dubai ac Abu Dhabi ar y 24ain o Hydref 2024. Byddwn yn anelu i gynnal gweithgareddau Rygbi, Pêl-droed, Pêl-rwyd a Chriced ar y daith.
“Cost y daith yw rhwng £2,300-£2,550 (ar y mwyaf) yn ddibynnol ar y drefn sy’n cael ei chynnig gan y cwmni teithio/cit sy’n cael ei archebu.
“Byddwn yn cynnig y daith i Flynyddoedd 9,10 ac 11 presennol yr ysgol. Yn amlwg, bydd rhaid i ddisgyblion fod ar gofrestr yr Ysgol yn Hydref 2024 i fynychu’r daith.
“Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y daith hon yn agored i bob disgybl addas ac o ganlyniad bydd noson rieni gyda staff Ymarfer Corff a Theithiau Chwaraeon Edwin Doran ar ddydd Iau, 26 Ionawr, yn ffreutur yr ysgol am 17:00 lle bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rannu."
Dywedodd un rhiant ei bod nhw’n awyddus tan iddyn nhw glywed y pris.
“Mae popeth yn swnio’n dda nes iti ddarganfod bydd hi’n costio £2,500 o bunnoedd,” dywedodd un rhiant.
“A’r peth gwallgof yw ei bod hi’n Abu Dhabi - sut ar y ddaear ydyn nhw’n gallu dweud ei bod hi’n daith i’r disgyblion i gyd? Pam Abu Dhabi am gymaint o gost?”
Dywedodd y rhiant ei fod wedi siomi gyda’r pris gan ei bod hi wedi dod tra bod pawb yn teimlo effeithiau “dramatig” yr argyfwng costau byw.
Fe wnaeth llefarydd ar ran Ysgol Gyfun Gŵyr amddiffyn y pris gan ddweud: “Dydy cost y daith ddewisol sydd yn ystod y gwyliau haf ac ar agor i ddisgyblion blwyddyn 9,10 ac 11 ddim yn derfynol ac mae hi’n rhywbeth rydym yn trafod gyda rhieni amdano.
“Roedd y gost ar flaen ein meddyliau, yn enwedig yn ystod y cyfnod yma, ac wrth weithio gyda chwmni rydym wedi defnyddio yn llwyddiannus yn y gorffennol. Fe wnaethon ni benderfynu yn erbyn mannau eraill fel Canada a De Affrica gan fod y gost yn fwy.
“Dydyn ni ddim wedi cynnal teithiau ers dechrau’r pandemig, ond mae sawl rhiant wedi bod yn gofyn iddyn nhw ailddechrau. Felly, dyna pam mae’r ysgol wedi cynnig taith chwaraeon. Os does dim digon o ddiddordeb yn y daith, ni fydd yn cael ei chynnal.”