Downing Street yn amddiffyn 'oedi' ar waharddiad teithio o India

Mae Downing Street wedi amddiffyn eu hamseriad i wahardd teithio o India wrth i bryderon godi am fygythiad amrywiolyn newydd ar lacio cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr.
Cafodd India ei ychwanegu at restr “goch” teithio'r DU ar 23 Ebrill, er bod y wlad wedi cofnodi dros 100,000 o achosion Covid-19 y dydd erbyn 5 Ebrill.
Wrth gael eu cwestiynu am pam na wnaeth y llywodraeth wahardd teithio o'r wlad ynghynt, honnodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod Downing Street wedi gweithredu'n gyflym, meddai The Independent.
Fe ddaw'r honiadau wrth i gorff cynyddol o arbenigwyr iechyd rybuddio yn erbyn llacio cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr ddydd Llun, wrth i'r amrywiolyn newydd ledaenu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.