Penodi rheolwr i drawsnewid synagog Merthyr Tudful

Synagog Merthyr Tudful a Neil Richardson
Synagog Merthyr Tudful a Neil Richardson

Mae prosiect i drawsnewid synagog Merthyr Tudful yn ganolfan ar gyfer dathlu treftadaeth Iddewig Cymru wedi penodi rheolwr.

Roedd Neil Richardson yn gyfarwyddwr dros dro plasty Cwrt Insole yng Nghaerdydd cyn cael ei benodi i’r swydd.

Caeodd drysau synagog Merthyr Tudful yn 1983 ac mae wedi bod ar wag ers 2006 a’i gyflwr yn dirywio.

Prynodd Sefydliad Treftadaeth Iddewig y safle yn 2019 ac maen nhw wedi cynnal a chadw’r adeilad gyda chymorth Cadw, a daeth nawdd gan y Loteri yn 2022.

Y gobaith yw y bydd y synagog yn sefydliad cenedlaethol ar gyfer cyflwyno hanes y gymdeithas Iddewig yng Nghymru.

Dywedodd Neil Richardson: “Mae’r synagog o bwys cenedlaethol ac mae ei dreftadaeth yn bwysig nid yn unig i Ferthyr Tudful ond Cymru a’r DU hefyd.

“Bydd y prosiect yn sicrhau fod yr adeilad yn cael ei hachub a bod hanes a straeon y gymuned Iddewig yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu.”

Y llynedd cyhoeddwyd y byddai'r darlledwr Huw Edwards, yr AS Gerald Jones a’r Gweinidog Diwylliant Dawn Bowden yn ymuno â noddwyr y prosiect.

Roedd y noddwyr eisoes yn cynnwys David Baddiel a Sir Michael Moritz.

Llun: Synagog Merthyr Tudful a Neil Richardson

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.