Newyddion S4C

Morfil prin ar y lan yn Sir Benfro yn 'dangos effaith newid hinsawdd'

27/01/2023
Morfil

Mae ymchwil newydd i forfil a gafodd ei ganfod ar lan yn Sir Benfro fwy na ddegawd yn ôl yn "dangos effaith newid hinsawdd" yn ôl gwyddonwyr. 

Dyma'r morfil asgell-byr cyntaf i gael ei ganfod mewn moroedd Prydeinig, gan ei fod fel arfer yn cael ei weld mewn moroedd trofannol a chynnes. 

Cafodd y morfil ei ganfod ar lan traeth Hazelbeach ger Neyland ar 1 Mawrth 2012. 

Fe gafodd y morfil ei archwilio gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU yn ogystal â Rhaglen Ymchwil y DU i Forfilod wedi Tirio a gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

I ddechrau, cafodd ei adnabod fel morfill asgell-hir sydd yn gyffredinol yn cael ei ganfod mewn moroedd Prydeinig. 

Ond mae dadansoddiad newydd o benglog a dannedd y morfil yn dangos ei fod yn un asgell-byr, sef y cyntaf erioed mewn moroedd Prydeinig. 

Mae penglog y morfil bellach yn cael ei gadw yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban, a dywedodd Dr Andrew Kitchener sy'n gweithio yno ei bod hi'n "bwysig i ddatblygu ein dealltwriaeth ni o'r newid mewn poblogaethau morwrol a'u dosbarthiad". 

"Mae'r canfyddiad yma yn dangos na fedrwn ni bellach gymryd yn ganiataol fod pob morfil sy'n gael ei ganfod ar y lan ym Mhrydain yn forfil asgell-hir."

Fe wnaeth Rob Deaville, sy'n gweithio i'r Sefydliad Swoleg yn Llundain, ychwanegu fod "canfod y morfil asgell-byr yma ym moroedd y DU yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol fod morfiligion yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.