Newyddion S4C

'Hollol hanfodol' i barhau i ddysgu o wersi'r Holocost

27/01/2023

'Hollol hanfodol' i barhau i ddysgu o wersi'r Holocost

Mae hi'n Ddiwrnod Cofio'r Holocost ddydd Gwener, a bron i 80 mlynedd ers erchyllterau'r cyfnod hwnnw, mae'n "hollol hanfodol" i barhau i ddysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd meddai un wnaeth oroesi.

Cafodd digwyddiad ei gynnal yn y Senedd ddydd Mercher lle y gwnaeth goroeswr yr Holocost rannu ei phrofiad o'r erchyllterau yn ogystal â chael clywed gan lysgenhadon ifanc prosiect Lessons from Auschwitz. 

Ganwyd Hedi Argent ym 1929 yn Vienna yn Awstria, gyda'i thad yn gyfreithiwr a'i mam yn wraig tŷ. 

Er bod Hedi wedi ei magu yn falch o'i chefndir Iddewig, roedd yn ei chael hi'n anodd i ddelio gyda gwrth-semitiaeth yn yr ysgol.

Image
Hedi Argent yn blentyn.
Hedi Argent yn blentyn. 

Ddiwrnod yn unig ar ôl yr Anchluss, sef pan y daeth Awstria yn rhan o'r Almaen ym mis Mawrth 1938, cafodd Hedi ei thynnu allan o'r ysgol, ac fe gafodd tŷ'r teulu ei feddiannu gan y Natsïaid. 

Cafodd ei thad ei arestio am wneud sylwadau gwrth-Natsïaidd, ac roedd yn rhaid i Hedi a'i mam wylio erchyllterau'r Kristallnacht pan gafodd tai, busnesau a synagogau Iddewig eu difrodi ar hyd Yr Almaen ac Awstria.  

'Anghredadwy'

Mae Maisie Mouncher ac Owen Jones yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ac yn lysgenhadon prosiect Lessons from Auschwitz.

Mae Lessons from Auschwitz yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, sydd yn galluogi disgyblion ar draws Cymru i ymweld â gwersyll crynhoi Natsïaidd ac Auschwitz-Birkenau, ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.  

Yn sgil Covid, ni chafodd Maisie ac Owen ymweld â'r gwersyll, ond yn hytrach, fe gawson nhw'r profiad o ddefnyddio technoleg realiti rhithiol. 

Dywedodd Maisie: "Ma' bach yn anghredadwy i fod yn onesd, oherwydd oedd ni wedi gwneud y prosiect ar-lein, a felly ni chawsom ni’r cyfle i gwrdd â’r goroeswr Eva Clarke mewn person.

"Felly oedd cwrdd â Hedi heddiw yn amazing, yn enwedig yn clywed stori hi a sut er nad oedd hi wedi mynd i un o’r campia gan ei bod hi’n ddigon ffodus i ffoi, o’dd e dal yn cael effaith anferth arni."

Ychwanegodd Owen ei bod hi'n "hollol hanfodol, bydd y testemoniau yma yn ddigidol ymhen amser felly mae’n hanfodol bod ein cenhedlaeth ni yn benodol yn parhau i rannu’r neges.

"O’dd yr Holocost yn ddinistr hollol trychinebus, ‘dyn ni methu gadael i unrhyw beth tebyg i ddigwydd achos yn amlwg, dim yr Holocost yw’r unig hil-laddiad o’r math a mae’n rhaid i ni sicrhau fod hwnna ddim yn digwydd eto."

Roedd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn noddi'r digwyddiad yn y Senedd a dywedodd ei bod hi'n "bwysig iawn i gael digwyddiad fel hyn yn y Senedd, maen nhw’n helpu i gofio a dysgu am wersi yr Holocost, ac mae’n hanfodol i gael cefnogaeth aml-bleidiol i ddigwyddiadau fel hyn hefyd i ddangos bod ni yn benderfynol i daclo anti-semitiaeth dros Gymru."

Ail-adeiladu bywydau

Doedd dim dewis arall ond i geisio ffoi pan y cafodd tad Hedi ei ryddhau o'r carchar, ac roedd ganddynt chwe wythnos i adael neu wynebu cael eu gyrru i wersyll crynhoi Dachau.

Ar ôl llwyddo i gael fisas i fynd i Loegr, fe wnaeth y teulu adael Awstria chwe wythnos yn unig cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechrau, a chychwyn eu bywyd o'r newydd yn Lloegr. 

Ymgartrefodd Hedi yn Lloegr gan ddod yn ddinesydd Prydeinig ym 1946 cyn mynd ymlaen i briodi, cael plant ac astudio i ddod yn weithiwr cymdeithasol. 

Collodd Hedi 27 o'i theulu estynedig yn yr Holocost.

Image
Hedi
Mae Hedi yn 93 oed ac yn byw yn Llundain.

Dywedodd Hedi mai "pobl gyffredin wnaeth y pethau hyn ond ni wnaeth hyn ddigwydd dros nos - digwyddodd yn sgil newyddion ffug a gwrando ar bobl oedd yn ceisio rhoi'r bai ar Iddewon achos roedd yn rhaid i rywun gael y bai. 

"Roedd yna amseroedd drwg ac roedd hi'n gyfleus i wrando ar y cynllwynion a'r newyddion ffug ac i roi'r bai ar yr Iddewon a doedd dim angen meddwl y tu hwnt i hynny."

Wrth ddysgu o wersi'r Holocost, dywedodd Hedi mai nid dim ond dysgu am yr erchyllterau sy'n bwysig, gan bod hefyd angen dysgu "pam eu bod nhw wedi digwydd a sut y gwnaethon nhw ddigwydd, sut y gwnaethon ni gyrraedd y pwynt fel bodau dynol lle y gwnaethom ni lofruddio miliynau oherwydd eu bod nhw’n rywbeth gwahanol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.