Dringwr ‘eithriadol o ffit’ o Gymru wedi marw o salwch uchder ger Everest
Fe wnaeth tad o Gaerdydd farw o salwch uchder wrth geisio dringo Mynydd Everest er mwyn codi arian at elusen.
Bu farw Kellinu Portelli, 54, yn y Himalayan Chain Resort yn Lobuche, Nepal, ychydig oriau i ffwrdd o ‘Everest Base Camp’, ar Hydref 29 2019, clywodd cwest i'w farwolaeth.
Roedd y rhedwr marathon o Gaerdydd yn dringo'r mynydd er mwyn codi arian i elusen ganser Marie Curie.
Yn Llys Crwner Canol De Cymru ddydd Iau, fe wnaeth y Crwner David Regan ddod i'r casgliad bod Mr Portelli wedi marw o ganlyniad i salwch uchder.
Cafodd archwiliadau post-mortem eu cynnal yn Nepal a’r Deyrnas Unedig.
Doedd dim tystiolaeth bod alcohol, anaf nag afiechyd o fewn ei gorff wedi cyfrannu at ei farwolaeth, meddai’r crwner.
'Heini'
Clywodd y cwest ei fod wedi teimlo’n sâl y diwrnod cyn iddo farw ond ei fod wedi dweud wrth ei dywysydd, a gymerodd ddarlleniadau o lefelau ocsigen yn ei waed ddwywaith, ei fod am barhau.
Y bore wedyn, cafwyd hyd iddo’n farw yn ei ystafell yn y gwesty.
Darllenodd Mr Regan ddatganiad tyst a roddwyd gan wraig Mr Portelli, Donna, a ddywedodd ei fod yn “berson heini iawn” a oedd wedi cwblhau “saith neu wyth marathon” yn y ddegawd cyn ei farwolaeth, gan bwysleisio ei fod “wedi paratoi'n dda ar gyfer cerdded y mynydd”.
Ychwanegodd Mrs Portelli ei fod wedi cael archwiliad meddygol blynyddol ychydig wythnosau cyn cychwyn ar y daith.
"Roedd yn un o’r dynion mwyaf angerddol i mi ei gyfarfod erioed. Mae ei farwolaeth wedi gadael twll yn ein bywydau,” meddai.
“Roedd yn hynod ffit, cryf ac wedi paratoi’n arbennig o dda ar gyfer ei daith yn gorfforol ac yn emosiynol."
Dywedodd y crwner: “Rwy’n gwbl fodlon nad oes tystiolaeth bod Kellinu wedi dioddef unrhyw anaf gan unrhyw un arall a gyfrannodd at ei farwolaeth."
Llun:GoFundme