Dyn 23 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd
Mae dyn 23 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ddydd Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Vectra arian a beic modur ar ffordd Monnow Way, Betws am tua 15:40.
Bu farw gyrrwr y beic modur oedd o ardal Casnewydd.
Mae dyn 60 oed sydd hefyd o ardal Casnewydd wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod: 2300026066.