Dros naw mlynedd dan glo i ddyn o Gaerdydd am droseddau terfysgol
Mae dyn o Gaerdydd wedi ei ddedfrydu i naw mlynedd a thri mis dan glo ar ôl pledio'n euog i bum trosedd dan Ddeddf Terfysgaeth (TACT) 2000.
Cafodd Luca Benincasa, 20, o Gaerdydd ei ddedfrydu ddydd Mercher yn Llys y Goron Winchester am bedair trosedd dan Adran 58 o TACT.
Roedd y troseddau'n ymwneud â meddiant o ddogfennau oedd yn debygol o fod yn ddefnyddiol i derfysgwr ac un trosedd dan Adran 11 o'r un Ddeddf sef aelodaeth o fudiad sydd wedi ei wahardd.
Cafodd Benincasa ei arestio ym mis Ionawr 2022 gan swyddogion o Heddlu Gwrth Derfysgaeth Cymru.
Cafodd sawl dyfais electronig eu cymryd o'i gartref ac yn dilyn archwiliad, cafodd deunydd eithafol ei ddarganfod.
Roedd y deunydd yn cynnwys gwybodaeth i gynorthwyo rhywun oedd yn cwblhau neu'n paratoi gweithred derfysgol.
Cafodd ei gyhuddo ar 1 Chwefror 2022 ac fe ymddangosodd drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Winchester ar 15 Gorffennaf 2022 lle blediodd yn euog i'r pump o droseddau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Pope o Heddlu Gwrth Derfysgaeth Cymru a arweiniodd yr ymchwiliad: "Nid oes modd tanamcangyfrif natur beryglus y deunydd ym meddiant Benincasa.
"Dyma pam mae hi mor bwysig i ddal i gyfrif y sawl sy'n ceisio ymuno â mudiadau gwaharddedig a chasglu deunydd a fedrai fod o ddefnydd i derfysgwr.
"Mae'r ymchwiliad a gafodd ei arwain gan wybodaeth wedi arwain at ddedfrydu unigolyn peryglus ac yn tanlinellu ymrwymiad heddlu gwrth derfysgaeth i fynd i'r afael â phob math o ideoleg eithafol."