Lidl yw'r archfarchnad gyntaf i dderbyn cydnabyddiaeth Comisiynydd y Gymraeg
Lidl yw'r archfarchnad gyntaf i dderbyn cymeradwyaeth i'w Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd yr iaith.
Mae gan Lidl 55 o siopau ledled y wlad, a dywed swyddfa Comisiynydd y Gymraeg eu bod wedi gweithio’n galed er mwyn cyflwyno a chynnwys y Gymraeg yn eu siopau.
Dywed y Comisiynydd bod y gymeradwyaeth hon yn "cydnabod ymrwymiad parhaus Lidl i'r achos."
Mae'r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth swyddogol ac mae sefydliadau yn derbyn y cynnig am gynllunio darpariaeth Gymraeg "uchelgeisiol" mewn partneriaeth gyda swyddfa'r Comisiynydd.
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, wedi dechrau yn ei rôl ar ddechrau mis Ionawr ac yn gobeithio cefnogi pobl i "ddefnyddio'r iaith Gymraeg ymhob agwedd o'u bywydau."
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg: “Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am eu gwasanaethau Cymraeg a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg yn ein bywydau bob dydd.
“Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg," meddai.
Dywedodd Ute Thomas, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Lidl yng Nghymru: “Rydym wrth ein bodd i dderbyn cymeradwyaeth i’n Cynnig Cymraeg, i gydnabod y gwaith caled hwn.”