Virginia Giuffre wedi marw yn 41 oed
Mae Virginia Giuffre, a wnaeth honni iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan y Tywysog Andrew, wedi marw yn 41 oed.
Dywedodd ei theulu mewn datganiad ei bod wedi "brwydro yn ddewr yn erbyn cam-driniaeth rywiol" ond fod "effaith y trais yn y pen draw yn annioddefol".
"Hi oedd y golau oedd yn rhoi gobaith i gymaint o oroeswyr. Er gwaetha'r holl heriau y gwnaeth hi ei wynebu, roedd hi'n disgleirio mor llachar. Bydd colled enfawr ar ei hôl."
Y gred yw fod Ms Giuffre wedi marw drwy hunanladdiad.
Roedd Ms Giuffre yn un o gyhuddwyr mwyaf blaenllaw Jeffrey Epstein. Fe wnaeth honni iddi gael ei masnachu ganddo ef ac Ghislaine Maxwell i Ddug Efrog pan yr oedd hi'n 17 oed.
Mae'r Tywysog Andrew wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ond fe ddaeth y ddau i setliad tu allan i lys yn 2022.
Y gred yw fod Ms Giuffre wedi marw ar ei fferm yng ngorllewin Awstralia.
Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiadau o ddynes anymwybodol mewn eiddo ger dinas Perth nos Wener.