Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth
Mae Wrecsam wedi creu hanes drwy sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Enillodd tîm Phil Parkinson o 3-0 yn erbyn Charlton gyda goliau gan Ollie Rathbone a Sam Smith yn sgorio ddwywaith.
Dyma'r tro cyntaf i dîm proffesiynol sicrhau dyrchafiad mewn tri thymor yn olynol.
Mae'r fuddugoliaeth yn erbyn Charlton yn golygu fod gan Wrecsam 89 o bwyntiau yn yr ail safle, a Wycombe a Stockport yn gydradd drydydd gyda 84 pwynt.
Gydag un gêm i fynd tan ddiwedd y tymor, mae'r fuddugoliaeth wedi sicrhau y bydd Wrecsam yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Dau safle awtomatig sydd ar gael am ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth, ac mae Birmingham eisoes wedi cael eu dyrchafu.
Fe gafodd clwb pêl-droed Wrecsam ei drawsnewid wedi i'r sêr o Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb yn 2021.
Roedd y perchnogion o Hollywood yn bresennol i gefnogi'r tîm ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.
Wedi 87 mlynedd yn y Gynghrair Bêl-droed, fe ddisgynnodd Wrecsam i'r Gynghrair Genedlaethol yn 2008.
Enillodd Wrecsam y Gynghrair Genedlaethol yn 2023 cyn mynd ymlaen i sicrhau dyrchafiad o Adran Dau y tymor wedyn.
Bellach, fe fyddan nhw'n chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf ar ôl cael eu dyrchafu o Adran Un.