Un fuddugoliaeth rhwng Wrecsam a'r Bencampwriaeth
Un fuddugoliaeth sydd rhwng Wrecsam a’r Bencampwriaeth, wedi i Wycombe fethu ag ennill yn erbyn Leyton Orient brynhawn Sadwrn.
Fe wnaeth Wycombe golli yn erbyn Leyton Orient o 1-0 oddi cartref brynhawn Sadwrn.
Cyn dydd Sadwrn, roedd Wrecsam yn ail yn Adran Un gyda 86 o bwyntiau, a Wycombe yn drydydd gyda 84 pwynt.
Mae'r golled i Wycombe yn golygu fod ganddynt 84 pwynt o hyd, felly byddai buddugoliaeth i'r Dreigiau yn erbyn Charlton brynhawn Sadwrn yn ddigon i sicrhau dyrchafiad gan mai dim ond un gêm sy'n weddill o'r tymor ar ôl hyn.
Mae Charlton ar hyn o bryd yn y pedwerydd safle, gyda 82 pwynt a rhediad da mewn gemau diweddar.
Os nad ydy Wrecsam yn ennill, fe fydd popeth yn dibynnu ar ganlyniadau'r Dreigiau a'r timau o'u cwmpas yng ngêm ola'r tymor yr wythnos nesaf.
Dau safle awtomatig sydd ar gael am ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth, ac mae Birmingham eisoes wedi cael eu dyrchafu.
Fe fydd y trydydd safle am ddyrchafiad yn cael ei benderfynu drwy gemau ail-gyfle.
Bydd Wrecsam yn wynebu Charlton am 17:30 ar y Cae Ras.