Trump a Zelensky yn trafod y rhyfel yn Wcráin
Mae Donald Trump a Volodymyr Zelensky wedi bod yn trafod y rhyfel yn Wcráin yn y Fatican ddydd Sadwrn.
Roedd Arlywydd yr Unol Dalieithiau ac Arlywydd Wcráin ymysg nifer o arweinwyr byd a oedd yn y Fatican ar gyfer angladd Y Pab Ffransis.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod ym Masilica San Pedr cyn yr angladd yn ôl swyddogion o'r Tŷ Gwyn a Kyiv.
Mae UDA wedi bod yn rhoi pwysau ar Wcráin i dderbyn cytundeb heddwch a fyddai'n golygu bod yn rhaid i Kyiv dderbyn rheolaeth Rwsia o rannau helaeth o dir o dan eu meddiant.
Mae Mr Zelensky wedi mynnu na fydd yn cydnabod sofraniaeth Rwsia dros y Crimea, sydd yn diriogaeth Wcráin ond o dan reolaeth Rwsia ers 2014, na rheolaeth y Kremlin yn ne a dwyrain Wcráin.
Yn hytrach, mae wedi galw ar Vladimir Putin i dderbyn diwedd diamod i'r brwydro.
Dywedodd cyfarwyddwr cyfathrebu'r Tŷ Gwyn Steven Cheung fod y pâr wedi "cael trafodaeth fuddiol iawn."
Dywedodd llefarydd Mr Zelensky Serhii Nykyforov fod y cyfarfod wedi para tua 15 munud.
Daw'r digwyddiad wedi cyfarfod cythryblus yn y Tŷ Gwyn ddiwedd Chwefror.
Bwriad y cyfarfod hwnnw oedd arwyddo cytundeb i ganiatáu i’r Unol Daleithiau gael mynediad i fwynau prin yn gyfnewid am gymorth milwrol pellach.
Ond ni chafodd y cytundeb ei arwyddo oherwydd bod y ddau arlywydd wedi dechrau ffraeo.
Roedd Donald Trump wedi rhybuddio Volodymyr Zelensky ei fod yn "gamblo gyda Thrydydd Rhyfel Byd".
Llun: X / Andriy Yermak