Newyddion S4C

Cynnal angladd Elle Edwards yn Lerpwl

25/01/2023
Elle Edwards

Mae angladd Elle Edwards wedi ei gynnal yn Lerpwl ddydd Mercher.

Bu farw Ms Edwards, 26, ar ôl cael ei saethu yn nhafarn y Lighthouse Inn ym Mhentref Wallasey ychydig wedi 23:50 ar 24 Rhagfyr.

Y gred yw mai nad hi oedd yr unigolyn yr oedd y saethwr wedi ei dargedu.

Daeth teulu a ffrindiau Ms Edwards ynghyd yn eglwys Sant Nicholas yn Wallasey ar gyfer y gwasanaeth am 12:30.

Cafodd ei harch ei gludo i'r eglwys, ac roedd cais i'r rhai oedd yn bresennol i gyfrannu at Sefydliad Elle Edwards, sydd wedi ei sefydlu er cof amdani.

Dywedodd ei thad wythnos ddiwethaf mai'r gobaith oedd y byddai'r sefydliad yn gweithredu i atal trais yn ymwneud â drylliau yn ninas Lerpwl.

Mae Connor Chapman, 22 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Ms Edwards ac fe fydd yr achos yn ei erbyn yn cael ei gynnal ar 7 Gorffennaf.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.