Yr Almaen i anfon tanciau i'r brwydro yn Wcráin
Fe fydd Yr Almaen yn anfon tanciau er mwyn cefnogi lluoedd Wcráin wrth i ymosodiad Rwsia ar y wlad ddwysau.
Fe wnaeth Canghellor Yr Almaen, Olaf Scholz, gyhoeddi ddydd Mercher y bydd o leiaf 14 tanc Leopard 2 yn cael eu hanfon i'r wlad.
Mae disgwyl y bydd Joe Biden hefyd yn gwneud cyhoeddiad am ymrwymiad yr UDA i anfon tanciau i'r wlad - cam fydd yn cynyddu'r tensiwn gwleidyddol rhwng y Gorllewin a Rwsia.
Dywedodd swyddogion yn Wcráin y byddai'r tanciau yn eu helpu i adennill tiriogaeth sydd wedi eu meddiannu gan Rwsia.
Hyd yma, mae'r Almaen a'r UDA wedi gwrthsefyll pwysau gan wledydd eraill y Gorllewin i anfon tanciau i Wcráin.
Mae'r Deyrnas Unedig eisoes wedi penderfynu anfon tanciau Challenger Two i Wcráin, gyda Rishi Sunak yn cyhoeddi'r newyddion yn gynharach yn y mis.
Fe wnaeth Prif Weinidog y DU groesawu penderfyniad Yr Almaen i anfon y tanciau gan ddweud ei fod yn cyfrannu at ymdrechion Wcráin i ennill y rhyfel.