Galwad am fwy o fuddsoddiad ar gyfer gofal brys ym maes canser

Galwad am fwy o fuddsoddiad ar gyfer gofal brys ym maes canser
Mae angen mwy o fuddsoddiad ar ofal brys ym maes canser, wrth i’r cleifion mwyaf sâl brofi triniaeth “wael iawn”, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r adroddiad gan Goleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, yn dweud bod cleifion canser yn cael “profiad gwael iawn” ledled y wlad, gyda’u cyflyrau yn eu gorfodi nhw i ymweld ag adrannau brys.
Dywedodd is-lywydd y coleg yng Nghymru, Dr Olwen Williams: “‘Da ni wedi gwneud yr adroddiad yma achos ein bod ni angen cyfleusterau i bobl â chanser sydd yn dod mewn i’r ysbytai mewn achosion brys.
“‘Da ni’n galw’r gwasanaeth yma’n wasanaeth oncoleg acíwt.”
Mae gwasanaeth oncoleg acíwt yn sicrhau bod cleifion canser, sydd yn wynebu problem sy’n gysylltiedig â chanser acíwt neu driniaeth ganser, yn derbyn y gofal sydd ei angen yn gyflym ac yn y modd mwyaf priodol.
“Er bod gan y rhan fwyaf o fyrddau iechyd wasanaeth canser brys, un o’r pethau ‘da ni wedi’i weld yw eu bod nhw’n patchy iawn,” meddai Dr Williams.
“I gleifion, rhywbeth pwysig ofnadwy yw eu bod nhw’n gwybod bod rhywun yna iddyn nhw 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. Hefyd, i’w teuluoedd, eu bod nhw’n gwybod bod gofal yna a bod pobl [staff meddygol] yn gwybod am hanes y claf.”
Yn ôl Canser Research UK, bydd hanner y boblogaeth yn cael diagnosis o ganser rywbryd yn eu bywyd.
Mae'r adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan y Gymdeithas dros Feddyginiaeth Acíwt, ac mae wedi darganfod y bydd sawl claf canser , yn ystod eu salwch, angen gofal canser arbenigol brys yn unedau achosion brys ysbytai.
Dywedodd Dr Williams: “Beth ‘da ni’n gobeithio ydy bod y gwasanaeth oncoleg brys yma’n mynd i wneud gwahaniaeth i faint o amser mae pobl yn cymryd i gael triniaeth a chael llawdriniaeth ganser.
“Hefyd, ‘da ni’n gobeithio nad ydyn nhw’n aros yn yr ysbytai yn fwy na beth sydd ei angen.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi creu dull cynhwysfawr i wella canlyniadau canser, gan gynnwys ymrwymo i ganfod canser yn gynt a gosod disgwyliad i bob ysbyty acíwt gael Gwasanaethau Oncoleg Acíwt.
“Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cynllunio i ddarparu gwasanaethau canser mewn ymateb i’r ymrwymiadau hyn”