Cyfnod murlun pêl-droed eiconig yng Nghaerdydd yn dirwyn i ben
24/01/2023
Mae cyfnod murlun eiconig yng nghanol Caerdydd ar fin dod i ben.
Cafodd y murlun ei gomisiynu gan Adidas yn 2021 ar drothwy cystadleuaeth yr Euros.
Y mudiad Unify gafodd ei gomisiynu i greu'r gwaith celf - mudiad sydd yn "hyrwyddo amrywiaeth, hybu cynhwysiaeth a chreu teimlad unedig o berthyn," yn ôl yr artistiaid.
Mae'r murlun yn dangos menyw ddu mewn top Cymru gyda'r geiriau "My Cymru My Shirt."
Roedd yn rhan o gyfres o furluniau tebyg gan Unify. Mae murlun tebyg o fenyw mewn crys Clwb Pêl-droed Caerdydd ar Stryd Iago yn Nhre-Biwt.
Mae murlun arall wedi ei gomisiynu fydd yn cymryd lle'r un presennol.