Teyrnged teulu i ddyn fu farw'n sydyn yng Nghaerdydd
Mae teyrnged wedi ei roi i ddyn fu farw'n sydyn yng nghanol dinas Caerdydd.
Cafwyd hyd i gorff Darren Moore, 39 oed, o Gasnewydd ar ddydd Sul, 22 Ionawr.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i ardal Plas Windsor a Heol y Parc am 19:36.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld Darren yng nghanol dinas Caerdydd yn ystod oriau man dydd Sul.
Maen nhw'n awyddus i siarad gydag unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng Heol y Parc a Phlas Windsor rhwng 03:00 a 07:00 fore Sul.
Cafodd ei weld ddiwethaf am 05:00 mewn dillad drag ac yn gwisgo colur ar ei wyneb, ffrog werdd lachar, wig golau, sodlau diamente a bag llaw.
Dywedodd ei deulu mewn teyrnged fod Darren "yn ŵr, mab, brawd, ewythr a ffrind cariadus".
"Roedd bob amser yn llawn ysbryd lle bynnag yr aeth, fe oedd ein pili pala cymdeithasol. Sicrhaodd fod ganddo lawer o amser i bobl, ac ni wnaeth feirniadu eraill," ychwanegodd y deyrnged.
"Mae gŵr a theulu Darren am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ond nawr maen nhw angen yr amser i alaru ac yn galw'n barchus am breifatrwydd ar yr adeg hon."