Cyngor Môn yn ystyried cynyddu'r premiwm treth cyngor ar ail dai
Mae Cyngor Ynys Môn yn ystyried cynyddu'r premiwm treth cyngor ar gyfer perchnogion ail dai fel rhan o'i gyllideb flynyddol.
Fe wnaeth aelodau Cabinet y cyngor gymeradwyo argymhellion i godi'r premiwm o 50% i 75% fel rhan o'r gyllideb ddrafft newydd.
Mae gan awdurdodau lleol y pŵer i gyflwyno premiwm treth cyngor hyd at 300%, wrth i Lywodraeth Cymru geisio fynd i'r afael â phroblemau yn gysylltiedig ag ail cartrefi.
Mae codi treth y cyngor 5% hefyd yn rhan o gynlluniau'r awdurdod sydd dan ystyriaeth.
Fe wnaeth Cabinet y cyngor bleidleisio o blaid y gyllideb newydd ddydd Mawrth, ond fe fydd y cynlluniau yn wynebu pleidlais gan y cyngor llawn ar 9 Mawrth.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer y cynnydd mewn treth cyngor eu llunio gan Marc Jones, cyfarwyddwyr adnoddau'r cyngor.
Yn ôl Mr Jones, daw'r cynnydd mewn treth yn sgil gostyngiad mewn faint o arian mae'r cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Fel arfer, byddai'r llywodraeth wedi rhoi unrhyw arian wrth gefn i awdurdodau lleol.
"Fel arfer ar amser yma'r flwyddyn, byddwn yn disgwyl gweld llythyrau ar gyfer grantiau yn dod i mewn," meddai Mr Jones. "Ond dim llawer eleni."
"Mae gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio unrhyw arian wrth gefn wedi dod i ben, rydym wedi dychwelyd i'r sefyllfa arferol lle mae'n rhaid i ni ddelio gyda chostau gydag ein harian ein hunain."
Ychwanegodd y Cynghorydd Robin Wyn Williams fod yna "ddisgwyliad" gan Lywodraeth Cymru o gynnydd mewn treth cyngor er mwyn sicrhau cydbwysedd yn y gyllideb.
"Beth mae'n rhaid i ni wneud yw ceisio cadw'r cynnydd mewn treth cyngor mor isel â phosib," meddai.
"Os allen ni wneud unrhyw beth i leihau unrhyw gynnydd sydd wedi'i gynllunio, fe fyddwn yn gwneud popeth y gallwn ni... ond mae'n rhaid i ni aros nes i ni dderbyn y setliad terfynol.
"Ni fyddwn yn derbyn hynny tan rhai dyddiau cyn i'r cyngor gwrdd yn llawn ym mis Mawrth. Byddwn yn defnyddio unrhyw arian ychwanegol yn y ffordd fwyaf priodol i drigolion Ynys Môn."