Newyddion S4C

Tri o bob pedwar yn torri'n ôl ar wariant yng Nghymru medd arolwg

25/01/2023
arian

Mae tri o bob pedwar yn torri'n ôl ar wariant nad yw'n hanfodol oherwydd yr argyfwngcostau byw, yn ôl arolwg newydd.

Dywedodd 78% o bobl yng Nghymru eu bod yn torri yn ôl ar wariant nad yw'n hanfodol, gyda 34% yn cytuno'n gryf.

Mae'r arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod pobl yn fwy pryderus am arian nag oedden nhw flwyddyn yn ôl.

Mae hefyd yn nodi mai dim ond hanner y boblogaeth sy'n "gyfforddus" â chyflwr cyllid eu haelwyd.

Roedd 37% yn dweud eu bod yn ymdopi o drwch blewyn ac 11% pellach yn dweud "nad ydynt yn ymdopi" wrth geisio dal dau ben llinyn ynghyd.

Dangosa'r arolwg fod 26% yn poeni "llawer" am eu cyllid, sy'n gynnydd o gymharu â 15% ym mis Ionawr 2022.

Roedd 27% yn dweud nad oedden nhw'n bryderus o gwbl am eu cyllid - llai na hanner y canlyniad mewn arolwg blaenorol ym mis Ionawr 2022 (60%).

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng 7 Tachwedd 2022 a 8 Ionawr 2023, gyda 2,000 o bobl yn ymateb.

Dywedodd Dr Catherine Sharp, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus wedi'i greu i alluogi trigolion Cymru i gael llais mewn polisi ac ymarfer sy'n effeithio arnynt, eu cymunedau, a'u cenedl.

"Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn gweld pobl Cymru fel partner allweddol yn ein penderfyniadau.

“Mae dealltwriaeth o'r panel yn awgrymu bod yr ansicrwydd ariannol sy'n cael ei ysgogi gan gostau byw cynyddol yn achosi pobl i boeni mwy am arian nag yr oeddent yn y gorffennol.

"Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod cyfran sylweddol o bobl yng Nghymru yn cael anhawster cael deupen llinyn ynghyd, ond eto mae cyfran uwch fyth yn poeni am eu cyllid.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.