Newyddion S4C

Torri'r newyddion am farwolaeth y Frenhines yn 'swreal' i Huw Edwards

24/01/2023
Huw Edwards

Mae’r newyddiadurwr Huw Edwards wedi dweud fod y profiad o dorri’r newyddion am farwolaeth y Frenhines yn “swreal”.

Ychwanegodd ar bodlediad Newscast y BBC ei fod yn “blês iawn yn broffesiynol” ei fod wedi cael gwneud.

Bu farw’r Frenhines Elizabeth II ar 8 Medi 2022 yn 96 oed.

“Dyw e ddim yn rhywbeth chi’n ysu am gael ei wneud achos dyw e ddim ond ar y llaw arall mae’n rhywbeth sy’n bwysig i’w wneud yn gywir ac nid oes prinder o bobl a fyddai’n dweud wrthot ti pe na bai’n cael ei wneud yn iawn,” meddai.

“Y peth gorau i fi oedd pobl yn y strydoedd yn fy stopio i ddweud ‘Diolch am sut wnaethoch chi hynny’ – pobl doeddech chi ddim yn eu hadnabod.  

“Dyma wylwyr yn eu miliynau allan yna sydd yn gwylio’r darlledu, ac i fi os maen nhw’n dweud wrthoch chi eu bod wedi ei werthfawrogi, mae hynny’n ddigon da i mi.”

Wythnos diwethaf, roedd Mr Edwards yn dathlu 20 mlynedd o ddarlledu’r newyddion ar raglen BBC News at 10.

Pan ofynnodd Adam Fleming, un o gyflwynwyr y podlediad iddo, a fyddai’n cyflwyno’r Coroni ar y BBC, dywedodd Mr Edwards: “Dwi ddim yn gwybod eto”.

“Wel, y BBC yw e, byddai siŵr o gael gwybod tuag wythnos o flaen llaw neu rywbeth?”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.