O leiaf saith wedi eu saethu yn farw yng Nghaliffornia
24/01/2023
Mae o leiaf saith o bobl wedi eu saethu yn farw yng Nghaliffornia ddydd Llun.
Digwyddodd yr ymosodiadau mewn dau leoliad ar wahân yn ninas arfordirol Half Moon Bay, sydd tua 30 milltir i'r de o San Francisco.
Cafodd yr ymosodwr ei enwi fel Zhao Chunli, 67, sydd yn byw gerllaw.
Daw hyn ddeuddydd yn unig wedi i 11 o bobl gael eu lladd mewn achos o saethu mewn stiwdio ddawns yn ninas Monterey Park ger Los Angeles dros y penwythnos.
Roedd degau o filoedd o bobl wedi ymgynnull mewn gŵyl i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Chineaidd nos Sadwrn.
Llun: CBS