Newyddion S4C

Achos marwolaeth Minffordd: Mab 'ddim yn ei iawn bwyll'

23/01/2023
Dafydd Thomas
Minffordd, Penrhyndeudraeth

Clywodd rheithgor nad oedd dyn o Wynedd, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei dad, yn ei iawn bwyll pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Bu farw Dafydd Thomas o bentref Minffordd ger Porthmadog o'i anafiadau ym mis Mawrth 2021.

Yn ôl yr erlyniad, mae Tony Thomas wedi derbyn iddo ymosod ar ei dad ond yn gwadu iddo'i lofruddio. 

Roedd Dafydd Thomas yn ŵr a thad, ac yn ddyn busnes blaenllaw a oedd yn gyfarwyddwr ar gwmni Gwynedd Environmental Waste Services (GEWS) Cyf, sydd wedi ei leoli ym Mhenrhyndeudraeth.

Roedd yn y broses o ymddeol cyn ei farwolaeth.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, fe glywodd y llys fod Tony Thomas wedi bod â salwch meddwl dros gyfnod o 25 mlynedd ac yn ôl un arbenigwr iechyd meddwl, Dr Andrew Sheppard, roedd cyflwr o’r enw schizoaffective disorder arno - cyfuniad o sgitsoffrenia a chyflwr deubegynol.

Ar ddechrau'r amddiffyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Gordon Aspden KC, os yw'r rheithgor yn credu mai Tony Thomas oedd yn gyfrifol am y farwolaeth, yna fe ddylai'r aelodau ystyried os oedd yn euog o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, yn hytrach na llofruddiaeth.

Mae Tony Thomas yn gwadu dau gyhuddiad yn ei erbyn - un o lofruddiaeth, ac un arall o ddynladdiad.

Bydd yr achos yn parhau ddydd Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.