Bydwragedd yng Nghymru i fynd ar streic
Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd wedi cyhoeddi y bydd bydwragedd yng Nghymru yn mynd ar streic.
Byd bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth yn streicio am wyth awr ar 7 Chwefror.
Yn yr wythnos yn dilyn y streic, byddant hefyd yn gweithredu yn ddiwydiannol drwy ofyn am arian ar gyfer unrhyw oramser y maen nhw'n ei weithio.
Yn ystod y streic, bydd bydwragedd yn darparu "gwasanaeth Gŵyl y Banc" er mwyn sicrhau fod menywod sy'n rhoi genedigaeth neu angen gofal brys yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Daw hyn wedi i Goleg Brenhinol y Nyrsys gyhoeddi rhagor o ddyddiadau ar gyfer streiciau.
Wrth i'r anghydfod dros gyflogau ac amodau barhau, cyhoeddodd y Coleg y bydd nyrsys yn streicio ar 6 a 7 Chwefror.