Defnyddio cerdyn gwyn am y tro cyntaf mewn gêm bêl-droed
23/01/2023
Mae cerdyn gwyn wedi ei ddefnyddio am y tro cyntaf mewn gêm bêl-droed, a hynny ym Mhortiwgal.
Fe wnaeth y dyfarnwr Catarina Campos ddangos y cerdyn yn y gêm rhwng Merched Benfica a Merched Sporting Lisbon ddydd Sul.
Mae'r cerdyn yn cael ei defnyddio i gydnabod chwarae teg ar y cae. Mae'n rhan o fenter ym Mhortiwgal er mwyn "gwella gwerth moesegol yn y gamp."
Roedd y dyfarnwr wedi dangos y cerdyn wrth i dimau Benfica a Sporting Lisbon ymateb i berson yn y dorf oedd yn dioddef argyfwng meddygol ar y pryd.
Fe wnaeth y dorf ymateb yn gadarnhaol i'r cerdyn, gan gymeradwyo pan gafodd ei ddangos.
Llun: Camal/Twitter