Menyw wedi marw yn dilyn tân ym Merthyr Tudful
22/01/2023
Mae menyw wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Merthyr Tudful.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn ardal Cefn Coed y Cymer fore dydd Sul ar ôl i larymau tân ganu mewn eiddo drws nesaf.
Fe ddaeth ymladdwyr tân o hyd i’r fenyw ond bu farw yn y fan a’r lle.
Yn ôl Heddlu De Cymru hi oedd yr unig berson yn y tŷ ar y pryd ac maen nhw’n ymchwilio.
Ychwanegodd yr heddlu fod criw ambiwlans wedi ceisio achub y fenyw ond ofer fu eu hymdrechion.