Galw am gefnogaeth y llywodraeth ar ôl canslo Pentref Ieuenctid y Sioe Frenhinol
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar lywodraethau'r DU a Chymru i wneud rhagor i gefnogi gwyliau mawr ar ôl canslo Pentref Ieuenctid y Sioe Frenhinol.
Fe wnaeth Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru gyhoeddi ddoe na fydd Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd CFfI Cymru fod y penderfyniad wedi ei wneud oherwydd costau sefydlu cynyddol a bod y ffocws yn mynd i fod “ar y cyfleoedd y mae’r sioe yn ei gynnig.”
Ond dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, y dylai Llywodraeth Cymru gamu i’r adwy.
“Fe fydd hyn yn newyddion trychinebus ar gyfer miloedd o bobol ifanc ar draws Cymru a thu hwnt,” meddai’r aelod o Senedd Cymru.
“Dyma uchafbwynt y flwyddyn ar gyfer nifer o bobl ifanc ym Mhowys ac mae’r hwb anferth i’r economi leol.
“Dylai llywodraethau'r DU a Chymru gynhyrchu strategaeth er mwyn cefnogi digwyddiadau mawr yn ystod y cyfnod yma o gostau uwch.
“Os nad oes unrhyw beth yn digwydd fe wnawn ni golli nifer ohonyn nhw am byth.”
'Darlun ehangach'
Dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru, Hefin Evans, fod y penderfyniad yn un anodd.
“Dyma benderfyniad nad yw’r sefydliad wedi’i wneud yn ysgafn,” meddai.
“Mae llawer o feddwl a thrafod wedi digwydd gyda’n haelodau drwy’r prosesau democrataidd sydd ar waith.
“Mae’r argyfwng costau byw, costau tanwydd cynyddol, costau llogi offer wedi cael effaith aruthrol ar y costau isadeiledd gan ei gwneud yn amhosibl i’r sefydliad ei wneud yn opsiwn ymarferol.
“Rhaid inni edrych ar y darlun ehangach a diogelu dyfodol ein sefydliad. Edrychwn ymlaen at y sioe gyda llechen ffres ac yn gyffrous i groesawu aelodau i’r Ganolfan CFfI.”
Yn 2022 roedd gweithgareddau yn y Pentref ar gyfer ffermwyr ifanc wedi eu cynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd yn sgil y pandemig.
Roedd yr ŵyl wedi croesawu nifer o'r artistiaid mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gan gynnwys Katie Owen, Candelas a'r Welsh Whisperer.
Llun: Y Sioe Frenhinol. Llun gan Megan_Alys (CC BY 2.0).