Angen troi datganoli yn y DU ben i waered meddai Peter Hain
Mae cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru, Peter Hain wedi dweud y dylid troi datganoli yn y Deyrnas Unedig ben i waered.
Dan y system bresennol mae Llywodraeth y DU yn penderfynu pa rymoedd ddylai gael eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ond dylai’r system weithio i’r gwrthwyneb gyda’r gwledydd rheini yn penderfynu pa rymoedd i’w cronni yn San Steffan, meddai Peter Hain.
Cyhuddodd Llywodraeth y DU o geisio “tanseilio” datganoli yn fwriadol.
“Dydw i ddim yn meddwl fod seiliau cyfansoddiadol y DU yn gadarn erbyn hyn,” meddai wrth Sunday Supplement.
“Mae’n rhaid ail-edrych ar y pwnc fel y mae Gordon Brown a Keir Starmer wedi bod yn dadlau, ac edrych ar setliad cyfansoddiadol newydd.
“Yn bersonol rwy’n credu, yn hytrach na datganoli grymoedd o’r canol, dylai cenhedloedd a rhanbarthau'r DU benderfynu beth maen nhw ei heisiau ar eu lefel eu hunain.
“Ac yna maen nhw’n ffederaleiddio i fyny a phenderfynu beth sy’n well ei wneud ar lefel uwch. Fel trethi, pensiynau ac yn y blaen.
“Wedyn fe fyddai yna lai o ffrithiant, llai o’r tensiwn sydd wedi bod yn adeiladu rhwng y Ceidwadwyr sydd mewn llywodraeth a’r grymoedd datganoledig.”
‘Hollol gywir’
Daw sylwadau Peter Hain wedi i Lywodraeth y DU rwystro diwygiadau i’r broses cydnabod rhyw yn yr Alban wedi i’r senedd yno gefnogi'r ddeddf newydd.
Bwriad y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd yw ei gwneud hi'n haws i bobl traws newid eu rhywedd yn gyfreithiol, gan lacio'r gofynion er mwyn derbyn tystysgrif cydnabyddiaeth rhywedd.
Byddai'r mesur yn gostwng yr isafswm oedran ar gyfer ymgeiswyr am y dystysgrif i 16, ac yn gostwng y cyfnod sydd ei angen i ymgeisydd fyw yn eu rhywedd penodedig o ddwy flynedd i dri mis.
Cafodd y ddeddf ei phasio yn Senedd Yr Alban ym mis Rhagfyr, gyda 86 o ASau yn pleidleisio o blaid o gymharu â 36 yn erbyn.
Ond, mae Ysgrifennydd Yr Alban yn Llywodraeth y DU, Alister Jack, bellach wedi cyhoeddi y bydd yn ceisio rhwystro'r ddeddf newydd gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Yr Alban.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu'n "hollol gywir" wrth geisio rhwystro'r ddeddf.
"Byddai Bil Cydnabod Rhywedd Nicola Sturgeon yn caniatáu i droseddwyr rhyw newid eu rhyw," meddai.
Llun: Peter Hain gan Roger Harris (CC BY 3.0).