Bradley Davies: Teimlo’n ‘lwcus i fod yn fyw’ ar ôl Covid-19

Mae chwaraewr y Gweilch, Bradley Davies, wedi datgelu ei fod yn teimlo’n lwcus i fod yn fyw ar ôl iddo fod yn ddifrifol wael gyda Covid-19.
Dywedodd y chwaraewr, sydd hefyd yn chwarae dros Gymru, fod effaith y feirws ar ei iechyd wedi gadael iddo deimlo’n “ofnus” iawn.
Ac yntau mor wael, fe benderfynodd osod peiriant monitro ocsigen yn ei gartref ac roedd pryder mawr y byddai’n rhaid iddo dderbyn triniaeth mewn ysbyty yn ystod cyfnod prysur iawn i’r gwasanaeth iechyd.
Roedd pryder am ddyfodol ei yrfa ar y pryd hefyd, ond yn lwcus iawn mae’r gŵr 34 oed wedi gwella ers hynny, ac yn paratoi i gynrychioli’r Gweilch yn erbyn y Dreigiau ddydd Sul yng Nghwpan yr Enfys y Pro14.
“Ges i brawf, ac es i adref i hyfforddi ac ro’ni’n teimlo’n iawn. Ar ôl hynny, fe wnes i hitio wal. Roedd fy ngwraig yn gorfod fy nghodi fi oddi ar y soffa bob dydd a dechreuon ni sylweddoli fod pethe’n eithaf gwael.
“Roedd yn hurt, a byswn i ddim eisiau ei ddymuno ar neb.”
'Holl ffordd lawr i'r gwaelod'
Fe gafodd Davies Covid-19 ym mis Ionawr, ond mae hi wedi cymryd tan wythnos diwethaf iddo ddychwelyd i’r cae chwarae oherwydd effeithiau tymor hir y feirws.
Yn un o gymeriadau mwyaf rygbi Cymreig, dywed y cyn-chwaraewr i’r Gleision ei fod yn gallu gwneud jôc o’r sefyllfa erbyn hyn, ond ar y pryd, roedd yn hynod byrderus effaith gafodd y salwch ar ei allu i anadlu.
“Gwnes i brynu peiriant monitro ocsigen ar ôl i mi gael gwybod gan fy meddyg ei fod yn eithaf isel ar un adeg, ac mae’n debyg fy mod i wedi disgyn oddi ar y soffa. Ges i drwyddo fe drwy fwyta Toblerone cyfan!
“Dw i’n iawn nawr, ond dyw e ddim yn fater i chwerthin amdano achos roedd yn ofnadwy ar y pryd.
“Roedd gen i ofn, yn bendant – oherwydd yr effaith mae’n cael arnoch chi.
“Pan ges i e, mi wnes i deipio Covid-19 i Google a gweld y rhestr o symptomau.
“Roeddwn i’n mynd o’r top i’r gwaelod bob dydd ac yn eu ticio i ffwrdd. ‘Meigryn? Ydw. Colli blas ac arogl? Do. Es i’r holl ffordd i lawr i’r gwaelod.
“Roeddwn i’n lwcus ar y dechrau achos na wnaeth e effeithio fy ysgyfaint, ond yn y diwedd fe wnaeth e.
“Rwy’n cofio fy mod i wedi eistedd ar ddiwedd fy soffa yn gwylio’r teledu a dywedodd fy ngwraig fy mod i’n swnio’n ddoniol ac roeddwn i’n gwichian.
“Roedd yn rhyfeddol, ond rydw i drosto a dwi ddim eisiau ei gael eto”.
Dychwelyd i'r cae rygbi
Fe wnaeth Davies ddychwelyd yn araf i hyfforddi ar ôl wythnosau i ffwrdd o’i gyd-chwaraewyr y Gweilch.
Fe fydd yn gwneud ei ymddangosiad llawn cyntaf yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade ddydd Sul.
Dywedodd fod Covid wedi gwneud iddo sylweddoli’r hyn mae wedi’i gyflawni yn ystod ei yrfa gyda’r Gleision, y Wasps a nawr y Gweilch.
“Fel chwaraewyr, rydyn ni’n naturiol yn edrych yn ôl ar ein gyrfa dim ond ar ddiwedd y cyfnod.
“Rydw i wedi cyflawni lot, ond mae na bethau yr hoffwn eu cyflawni o hyd. Gall rywun dynnu hyn oddi wrtha i ar unrhyw adeg, a dwi jyst yn lwcus.”
Mae’n bosib gwylio ailddarllediad o’r gêm Dreigiau v Gweilch am 17:30 ddydd Sul ar S4C.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans