Rhybudd wrth i wylanod ddwyn siopa cwsmeriaid yng Nghyffordd Llandudno
Mae rhybudd i bobol beidio â bwydo gwylanod wedi iddynt ddwyn siopa o leiaf pedwar o bobol yng Nghyffordd Llandudno.
Clywodd y Gwasanaeth Democratiaeth Leol bod y gwylanod yn tueddu i dargedu pobol wrth iddyn nhw adael archfarchnadoedd a dychwelyd i’w ceir.
Dywedodd cwsmeriaid yn archfarchnadoedd Tesco ac Asda'r dref eu bod nhw wedi colli bwyd i grafangau’r gwylanod.
“Oherwydd bod pobol yn bwydo gwylanod maen nhw wedi dysgu bod pobol yn ffynhonnell hawdd o fwyd,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Tref Conwy.
“Peidiwch â bwydo’r gwylanod a rhowch unrhyw fwyd neu orchudd bwyd mewn bin sydd â chaead arno.”
‘Dysgu gwers’
Dywedodd Richard Evans a fu’n siopa yn Tesco'r dref fod gwylan wedi dwyn pecyn o dda-da wrth iddo ddychwelyd i’w gar.
“Wrth i fi adael y siop dyma fi’n rhoi un botel o gel golchi dwylo a phecyn o dda-da ar do'r car,” meddai.
“Hedfanodd y wylan i lawr a bachu’r pecyn o dda-da o flaen fy llygaid i, a hedfan i ben arall y parc.”
Ychwanegodd ei fod wedi rhedeg ar draws y parc a dod o hyd i’r wylan yn ceisio agor y bag gyda’i big.
“Roedd wir angen y da-da arna i am fy mod i’n dioddef o lefelau siwgr isel yn y gwaed,” meddai.
“Dylen i fod wedi dysgu gwers oherwydd fe ddigwyddodd yr un peth rhai wythnosau ynghynt. Y tro yna fe geisiodd gwylan ddwyn fy waled wedi i mi ei ollwng ar y llawr.”
‘Rhegi’
Dywedodd Howard Evans, 35, fod yr un peth wedi digwydd iddo ef wrth iddo ddychwelyd i’w gar yn archfarchnad Asda'r dref.
“Fe wnes i roi fy mwyd ar do'r car wrth chwilio am odriadau'r car,” meddai. “Hedfanodd y wylan i lawr a dwyn fy mrechdan.
“Ro’n i ar y ffôn ar y pryd a dyma fi’n rhegi ac roedd y dyn ar y ffôn yn meddwl mod i’n siarad efo fo.
“Roedd rhaid i mi ymddiheuro. Alla i ddim credu pa mor ymosodgar yw’r gwylanod.”