Miss Cymru wedi ei hanafu yn ddifrifol mewn damwain ar yr M4
Mae Miss Cymru 2022 wedi ei hanafu yn ddifrifol mewn damwain ar yr M4.
Fe wnaeth Darcey Corria dorri ei phelfis ac esgyrn yn ei gwddf ar ôl y ddamwain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r fenyw 21 oed o’r Barri sydd yn gobeithio ennill gwobr Miss World yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Dywedodd trefnwyr y gystadleuaeth eu bod nhw’n “hyderus” y gallai Darcey Corria gymryd rhan ym mis Mai.
Hi oedd y ddynes gyntaf o liw i ennill gwobr Miss Cymru yn hanes 70 mlynedd y gystadleuaeth.
Fe wnaeth llefarydd ar ran Miss Cymru ddweud bod y newyddion yn eu "tristhau".
"Mae Darcey yn derbyn cariad a chefnogaeth gan ei theulu agos ac mae disgwyl iddi wella yn llwyr," medden nhw.
Llun: Darcey Corria gan Miss Cymru / Danielle Latimer