Morlo yn crwydro at siop kebabs ar nos Wener
Bu’n rhaid achub morlo bach dryslyd yn Lloegr wedi iddo grwydro o’r arfordir at siop kebabs ar nos Wener.
Galwyd y Tîm Achub Môr a Bywyd Gwyllt i siop kebabs Istanbul Delight yn Norfolk am 23;00.
Roedd y morlo bach wedi ymlwybro cannoedd o fetrau o’r môr.
Cafodd llun o'r morlo ei yrru gan bobol oedd yn y siop kebabs at y Tîm Achub Môr a Bywyd Gwyllt, ond ni arhosodd yno'n hir a bu'n rhaid chwilio amdano.
“Ar ôl chwilio am beth amser fe ddaethon ni o hyd i’r morlo y tu allan i arcêd o’r enw The Mirage,” meddai Dan Goldsmith, cadeirydd y tîm achub.
“Mae’n amlwg fod y morlo wedi drysu ac wedi parhau i grwydro oddi wrth y môr.”
Cyffredin
Dywedodd Dan Goldsmith bod galwadau i achub morloi ar gynnydd.
“Dyma’r ail waith mewn deuddydd i ni achub morlo sydd wedi crwydro oddi wrth y môr,” meddai.
“20 mlynedd yn ôl roedden ni’n derbyn tua dwy alwad bob wythnos am forloi, erbyn hyn rydym ni’n derbyn 15-20 y dydd.”