Newyddion S4C

Sylwadau yn cymharu sefyllfa ail dai gyda brodorion America yn creu dadlau

Robert Llewelyn Jones ac Aberffraw. Llun gan stëve (CC BY-NC-ND 2.0).
Robert Llewelyn Jones ac Aberffraw

Mae sylwadau gan gynghorydd ar Ynys Môn yn ystod cyfarfod cynllunio yn cymharu sefyllfa ail dai gyda’r hyn ddigwyddodd i bobl frodorol yn yr UDA wedi creu dadlau chwyrn.

Gofynnodd cynghorydd Parc a’r Mynydd Robert Llewelyn Jones i’r pwyllgor ystyried “beth ddigwyddodd yn America, ble aeth pobl wynion draw ac nid oedd unrhyw ffordd roedd y brodorion yn gallu cynnal eu ffordd o fyw”.

Daeth ei sylwadau wrth ymateb i gynghorydd Aberffraw Arfon Wyn, a oedd wedi gwneud araith dros effaith ail dai ar bobl leol a’r iaith Gymraeg.

Roedd wedi codi pryderon am effaith tai gwyliau ac ail dai yn Aberffraw.

Dywedodd y gallai'r pentref droi yn "Rhosneigr arall" a oedd yn wag yn ystod y gaeaf.

Ymatebodd Robert Llewelyn Jones fod angen "cynllun er mwyn cadw'r Gymraeg yn fyw" ym mhentrefi Ynys Môn.

"Does dim llawer o Gymraeg i'w glywed yn siopau Rhosneigr, nac unrhyw le arall yno erbyn hyn," meddai.

'Dim cymhariaeth'

Ond roedd cannoedd o bobl wedi ymateb i’w sylwadau am bobl frodorol yn yr UDA ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Rachael Smith: “Nid oes unrhyw gymhariaeth gyda’r lladd, trachwant a'r rhyfel wnaeth gymryd tir Americanwyr brodorol."

Dywedodd Dave Hughes: “Ddim yr un peth o gwbl.”

Dywedodd Nick Bounds: “Mae Bae Trearddur nawr yn 505 os nad 70% yn dai gwyliau.”

Dywedodd Gwyn Pritch: “Rydym yn gofyn i berchnogion ail gartrefi i falio sy’n ddibwrpas ond tase nhw’n malio bydden nhw ddim yn prynu’r tai yn y lle cyntaf.”

Llun: Robert Llewelyn Jones ac Aberffraw. Llun gan stëve (CC BY-NC-ND 2.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.