
Dathlu 125 o flynyddoedd o bier Garth Bangor
Mae un o safleoedd fwyaf eiconig Bangor yn dathlu 125 mlynedd y penwythnos yma.
Cafodd y pier ei oleuo nos Wener fel rhan o’r dathliadau.
Ar 14 Mai 1896, cafodd Pier Garth Bangor ei agor yn swyddogol gan Arglwydd Penrhyn.
Fe wnaeth torf o 5,000 ymgynnull i wylio’r agoriad 125 o flynyddoedd yn ôl yn dilyn gorymdaith trwy’r ddinas.

Yn safle rhestredig sydd â hanes diddorol, y pier yw’r ail hiraf yng Nghymru, a’r nawfed fwyaf hir yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r pier wedi newid tipyn ers ei ddefnydd gwreiddiol fel safle i groesawu llongau hamdden o Lerpwl, Blackpool ac Ynys Manaw i Fangor.
Roedd rheilffordd fechan yn arfer bod ar wyneb y pier i gludo’r bagiau, ond cafodd ei digomisiynu yn dilyn damwain dros nos a achosodd dipyn o ddifrod i wddf y pier.
Cafodd ei gau yn 1971 oherwydd rhesymau diogelwch, gyda pherchnogaeth y pier yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Arfon rhai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Gwnaethpwyd y penderfyniad i ddymchwel y pier, ond fe wrthwynebodd Cyngor Dinas Bangor ar sail fod y safle yn un rhestredig.
O ganlyniad, fe brynodd Gyngor Dinas Bangor y pier am 1 geiniog ym 1975, ond ni ddechreuodd y gwaith adnewyddu tan 1982.
Ers hynny mae’r pier wedi ffynnu, gyda gwaith adnewyddu o’r newydd yn cymryd lle yn Awst 2017.

Yn wahanol i’r torfeydd a welwyd yn 1896, ni fydd hi’n bosib i griw mawr ymgynnull ar gyfer y dathliadau eleni.

Fe fydd plac newydd yn cael ei ddadorchuddio ddydd Sadwrn gan faer Bangor, Cyng. Owen Hurcum.
Meddai: “Ein pier yw trysor ein dinas wych, sy’n cynnig y golygfeydd gorau y gellwch chi ddychmygu ar gyfer pawb.
“Mae wedi sefyll fel adnodd i’r ddinas ers 125 mlynedd, ac wedi gwasanaethu pobl y ddinas trwy gydol yr amser.
“Mae’r pier wedi wynebu sawl her trwy gydol ei thaith, ac fe fydd y buddsoddiad diweddar o dros £1.8 miliwn yn galluogi i’r strwythur oroesi am 125 mlynedd arall.
“Ni allwn ymddangos fel dinas heddiw i ddathlu ei phen-blwydd pwysig, ond fe allwn, ac fe fyddwn yn dathlu’r pier yn ein ffordd ein hunain wrth symud ymlaen.
“Mae’r pier yn anadl einioes y ddinas, ac yn rhan o hiraeth Bangor. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ei hanes yn datblygu.”