Newyddion S4C

Eddie Jones yn cadw llygad barcud ar sgwad 'hŷn' Cymru

21/01/2023
Eddie Jones

Mae Eddie Jones wedi dweud y bydd yn cadw llygad barcud ar Gymru a hyd yn oed yn hedfan i Gaerdydd o Awstralia i’w gwylio yn y Chwe Gwlad.

Mae Cymru ac Awstralia yn yr un grŵp yn y Cwpan y Byd Rygbi ond mae gan y ddau dîm hyfforddwyr newydd.

Cafodd Wayne Pivac a Dave Rennie ill dau eu diswyddo yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

Dywedodd Eddie Jones a gymerodd yr awenau fel hyfforddwr Awstralia fod cryn ansicrwydd sut y bydd y timoedd rhyngwladol yn chwarae.

“Fe fydd yn hynod o ddiddorol gweld sut mae Warren yn penderfynu hyfforddi Cymru,” meddai Eddie Jones wrth bapur newydd y Daily Mail.

“Mae ganddo sgwad hŷn erbyn hyn. Yn draddodiadol mae timoedd Warren wedi bod yn enwog am eu ffitrwydd a’u gwydnwch.

“Dyna pam ei fod yn hyfforddwr mor llwyddiannus. Ond mae hynny’n anoddach gyda sgwad hŷn.

“Fe fyddaf yn eu gwylio yn ofalus. Hoffwn i ddod draw a’u gwylio yn y Chwe Gwlad ryw ben.”

Anafiadau

Bydd Cymru ac Awstralia yn chwarae ei gilydd yn Lyon ar 24 Medi eleni.

Yn y cyfamser mae Warren Gatland wediu cyhoeddi ei garfan ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ken Owens fydd capten Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.

Mae ail reng Caerdydd Teddy Williams, asgellwr Caerdydd Mason Grady, ail reng y Gweilch Rhys Davies a maswr y Gweilch Keiron Williams wedi cael eu cynnwys yn y carfan am y tro cyntaf.

Bydd Rio Dyer, Tommy Reffell, Joe Hawkins a Dafydd Jenkins yn chwarae yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf, yn dilyn eu capiau cyntaf dros Gymru yng ngemau cyfres yr Hydref.

Mae Louis Rees-Zammit a Dillon Lewis wedi eu cynnwys yn y garfan er fod amheuon am faint o funudau fyddan nhw'n chwarae oherwydd anafiadau.

Mae nifer o brif chwaraewyr Cymru wedi'u hanafu ar gyfer y gystadleuaeth, gan gynnwys Will Rowlands, Gareth Anscombe a Thomas Young.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.