Chris Hipkins i fod yn Brif Weinidog newydd Seland Newydd
20/01/2023
Chris Hipkins fydd Prif Weinidog newydd Seland Newydd.
Ef oedd yr unig un oedd wedi ei enwebu gan y Blaid Lafur i gymryd lle Jacinda Ardern fel y Prif Weinidog.
Cafodd Mr Hipkins ei ethol i'r senedd gyntaf yn 2008 a chafodd ei benodi'n weinidog ar gyfer Covid-19 ym mis Tachwedd 2020.
Ar hyn o bryd mae'n weinidog yr heddlu, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.
Fe wnaeth Jacinda Ardern gyhoeddi ei bod yn bwriadu ymddiswyddo fel prif weinidog Seland Newydd fis nesaf.
Mewn cynhadledd emosiynol i'r wasg, dywedodd Ms Ardern mai ei rheswm dros gamu i lawr oedd "gan nad oes dim byd ar ôl gen i yn y tanc."