Newyddion S4C

Cwis Bob Dydd yn 'ffordd o gael tamaid bach o'r Gymraeg ym mywydau pobl'

22/01/2023

Cwis Bob Dydd yn 'ffordd o gael tamaid bach o'r Gymraeg ym mywydau pobl'

Roedd Cwis Bob Dydd i fod i ddod i ben ddydd Sul, ond yn dilyn y llwyddiant, bydd chwaraewyr yn falch o glywed fod y cwis wedi cael ei ymestyn am bedair wythnos arall.

Mae Cwis Bob Dydd yn cynnig 10 cwestiwn a'r syniad ydy fod yn rhaid ateb y cwestiynau mor gyflym â phosib.

Mae'r sgôr ar y diwedd yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r person wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau yn wahanol i bawb.

Comisiynydd Cwis Bob Dydd ydi Rhodri ap Dyfrig, sydd yn Arweinydd Trawsnewid Cynnwys Digidol i S4C, ac mae'r cwis wedi ei gomisiynu a'i gyd-ariannu gan S4C a Llywodraeth Cymru. 

Daeth y syniad yn sgil cyswllt oedd gan Rhodri yng Ngwlad y Basg.

Mae ganddo gyswllt sy’n gweithio i gwmni yno ac fe wnaeth gysylltu gyda Rhodri yn sôn am ap cwis oedd yn boblogaidd iawn ac yn holi os oedd ganddo ddiddordeb gwneud fersiwn Gymraeg.

"Mi fuon ni’n trafod a natho ni drio cyrraedd rywle, methu cweit neud o ar y pwynt yna a wedyn yn y pendraw, fe wnaethom ni gais am grant gan Llywodraeth Cymru.

"Felly ddoth nhw fewn ar y prosiect hefyd o ran adran y Gymraeg a nath hwnna olygu bo’ ni’n gallu ariannu fo a gwneud y cyfnod peilot ‘ma," meddai Rhodri. 

Mae'r ap wedi bod yn rhedeg ers deuddeg wythnos, a bydd y cyfnod peilot cyntaf yn dod i ben ddydd Sul. 

'Potensial'

Ond yn ffodus i chwaraewyr, bydd y tymor y cyntaf yn cael ei ymestyn am bedair wythnos arall. 

Dywedodd Rhodri ei bod yn "mynd mor dda, ‘dan ni’n mynd i ymestyn y cwis am fis arall er mwyn gweld lle ma’n mynd i fynd a’r model ma’r Basgwyr wedi bod yn gweithio arno ydi neud o mewn tymhore felly ma’n gadal ni asesu lle ‘dan ni’n mynd nesa, be’ di’r cama’ nesa ar ei gyfer o ac i weld os mae’r galw yna idda fo ddod yn ôl."

Yn ôl cynhyrchydd y cwis, Aled Parry, mae'n galonogol fod S4C yn gweld y potensial sydd gan y cwis. 

"Be' sy'n ofnadwy o gefnogol ydy bod S4C yn gweld y potensial yn y cwis a bod rwbath mor fach â 10 cwestiwn pob diwrnod a bod nhw'n gallu gweld y potensial yna i dyfu'r gynulleidfa felly hwnna dwi'n meddwl sy'n gefnogol i fi fel cynhyrchydd ac i fi, mae'n fraint i fod yn rhan ohona fo.," meddai Aled. 

Mae Ameer Davies-Rana a Megan Llŷn yn wynebau i'r cwis, ac wrth gyfeirio at Ameer, dywedodd Aled ei fod yn "denu cynulleidfa newydd sydd ella ddim yn rhugl yn yr iaith Gymraeg ond ma'r cwis yn rhoi hanes i ti, ma' 'na lot o positifs mae Ameer yn ei weld er mwyn denu cynulleidfa sydd ella ddim yn hyderus yn siarad yr iaith ond yn hapus i chwara'r ap."

O nerth i nerth

Mae'r cwis yn mynd o nerth i nerth o ran y nifer sy'n ei chwarae hefyd. 

"'Dan ni’n hapus iawn efo sut mae o wedi tyfu felly wrth gwrs, oeddem ni’n dechre o ddim byd ond ‘dan ni rwan fyny at 5,000 o ddefnyddwyr a ma’ ‘na 3,000 o heina yn chware bob dydd felly ma hwnna yn dipyn o beth.

"Oeddan ni’n gweld ar Ddydd San Steffan fod na gynnydd mawr iawn yn y defnyddwyr – dwi’n meddwl oedd pobl adra efo’u teulu ac yn gwneud y cwis a siwr bod pobl yn dweud ‘Be’ ‘di hwnna?!'"

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, mae "gwrando" ar y gynulleidfa yn hollbwysig yn ôl Aled.  

"Dyna dwi'n meddwl sy'n eitha diddorol amdana fo ydi oherwydd mai 'dan ni'n gwrando ar eu barn nhw, be' 'dan ni isio ganddyn nhw ydi iddyn nhw jyst deud wrtha ni a be fysa chi'n licio Cwis Bob Dydd i fod yn yr ail gyfres, y drydedd gyfres ac fe awn ni ati i drio gwneud i hyn ddigwydd so ma'n grêt."

Ychwanegodd Rhodri fod syniad y cwis yn "rywbeth mor syml a ma'n ffordd o gael tamaid bach o'r Gymraeg o fewn bywydau pobl pob dydd. 

"Y bwriad ydi i drio cyrraedd pob math o siaradwyr Cymraeg ac i roi cyfle i bobl jyst gael darllen bach o Gymraeg a deall rhywbeth am hanes Cymru - dysgu rhywbeth bach mewn ffordd syml."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.