Bydd perchnogion ail dai yn Rhondda Cynon Taf yn talu mwy o dreth
Bydd perchnogion ail dai ac eiddo sy'n wag am gyfnodau hir yn Rhondda Cynon Taf yn gorfod talu mwy o dreth cyngor.
Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan y cyngor llawn mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Bydd premiwm treth cyngor o 100% ar gartrefi sy'n wag am fwy na dwy flynedd ac ar gyfer ail gartrefi. Bydd premiwm o 50% hefyd ar eiddo sy'n wag am gyfnod o rhwng un a dwy flynedd.
Ym mis Rhagfyr, cafodd y cynlluniau gefnogaeth y cabinet ac fe wnaethon nhw argymell bod y cyngor llawn yn eu cymeradwyo.
Y bwriad yw bod y premiwm ar eiddo gwag hir dymor yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023 a bod y premiwm ar ail gartrefi yn cael ei gyflwyno ar 1 Ebrill 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Llafur y cyngor: "Mae gennym ni argyfwng dai. Mae gennym ni aflwydd mewn rhai ardaloedd lle mae gennym ni eiddo gwag."
Ychwanegodd nad oedd hyn yn fater o "gosbi pobl" a'i fod yn teimlo fod gan y cyngor "ddyletswydd i geisio gwneud mwy ar hyn".
Dywedodd y Cynghorydd Sam Trask, arweinydd y grŵp Ceidwadol, fod ganddo bryderon am y cynlluniau i godi trethi ar ail dai, gan ddweud fod y rhestr eithriadau yn "gul iawn".