Newyddion S4C

Carcharu menyw am 15 mlynedd wedi iddi bledio'n euog i ddynladdiad

20/01/2023
Carrie McGuinness

Mae menyw 35 oed o Rydyfelin wedi cael ei charcharu am 15 mlynedd a chwe mis wedi iddi bledio'n euog i ddynladdiad.

Cafodd Carrie McGuinness ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener am ddynladdiad Steven Davies ar sail cyfrifoldeb lleihaedig.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i gyfeiriad tŷ Mr Davies ar 15 Mehefin y llynedd wedi i un o'i gymdogion godi pryderon amdano.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan swyddogion.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lianne Rees o Uned Troseddau Difrifol Heddlu De Cymru: "Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir ac anodd i'r teulu Davies ac rydw i’n cydymdeimlo yn fawr â nhw.

"Er na fydd canlyniad yr ymchwiliad yn dod a Steven yn ôl, rydw i’n gobeithio y bydd yn rhoi rhyw fath o gysur iddyn nhw fel eu bod nhw’n gallu symud ymlaen gyda'u bywydau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.