
Rhyddhau casgliad o draciau i ddathlu pen-blwydd Datblygu yn 40 oed
Rhyddhau casgliad o draciau i ddathlu pen-blwydd Datblygu yn 40 oed
Bydd Datblygu yn rhyddhau casgliad o draciau i ddathlu eu pen-blwydd yn 40 oed.
Mae'r band wedi gweithio gyda label cerddoriaeth Ankst i greu pedwar CD bydd yn cael ei ryddhau ym mis Mawrth.
Yn rhan o'r casgliad mae traciau sydd heb eu clywed o'r blaen, yn ogystal â chyfweliadau gydag aelodau'r band.
Ond yn anffodus, ni fydd y band cyflawn yn gallu dathlu'r casgliad. Bu farw'r prif leisydd, David Edwards ym mis Mehefin 2021.
Dywedodd Patricia Morgan, baswr y band, mai creu'r casgliad oedd ei freuddwyd.
"O'dd e wedi edrych ymlaen i hwn. Fel breuddwyd, o'dd e ishe fe digwydd.
"A o'dd e wastod yn neud rhestr o be' lice fe ca'l arno fe, so o'dd rheina gyda ni i ddachre."

Fe wnaeth syniadau bach troi'n fawr wedyn wrth i David a Patricia ehangu eu syniadau ac eisiau gwneud mwy i ddathlu'r 40.
"Na'th e jyst ehangu, a'r syniadau dod. Bydde David mor falch bpd hwn yn digwydd, fi'n gw'bod 'ny."
'Dyle David bod 'ma'
Er bod creu'r casgliad yn achos i Pat ddathlu, mae hi'n dweud ei fod braidd yn rhyfedd ei wneud gan nad yw David yna i ddathlu gyda hi.
"Mae'n rhyfedd mewn ffordd achos dyle David bod 'ma, a 'di neud hwn hebddo fe yn tamaid bach yn od."
Fe wnaeth y band aduno yn y 2000au, rhai blynyddoedd wedi iddynt dorri lan yn yr 199au.
Mae dathlu heb David yn teimlo'n rhyfedd i Patricia, ond mae aduno wedi meddwl y byd iddi.
"Ma'r deg mlynedd diwetha' wedi jyst hedfan, ers i ni jyst dod nôl at ein gilydd a creu mwy o gerddoriaeth.
"Ma' edrych nôl dros yr amser yr y 40 blynedd, mae jyst wedi diflannu."
'Teimlo'r cariad'
Ers aduno mae'r band wedi bod yn gwneud gigs byw eto, ac mae Patricia wedi teimlo cariad y gynulleidfa atynt.
"Dod nôl yn 'neud gigs byw wedyn, i jyst teimlo'r cariad o'dd yn dod aton ni. O'dd e'n anhygol sut o'dd pobl yn ymateb a cefnogi.
"Ma' pethe wedi bod yn hollol wahanol i'r ffordd o'dd e ar y cychwyn."

Pan laniodd y band ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg, nid oeddynt wedi cael eu croeso â breichau agored.
Dywedodd Patricia fod y band yn teimlo bod "angen rhywbeth gwahanol yn y sîn" oedd yn wahanol i ganu am "byw yn y gorffennol".
Roedd y band eisiau canu am faterion cyfoes yng Nghymru, a bod yr iaith yn cael ei defnyddio i drafod materion y dydd yn hytrach na hiraethu am yr hen ddyddiau.
"Oni ishe dodi Cymraeg nôl mewn rhyw fath o sefyllfa ble o'dd e'n actually pwysig i gwrando ar y cerddoriaeth, nid dim ond pethe traddodiadol a rock trwm.
"Oni ishe rhywbeth mwy creadigol, mwy perthnasol, beth oedd yn digwydd yn y wlad nawr, nid jyst edrych nôl trwy'r amser."
Barnu'r Cymry Cymraeg yn Gymraeg
Dywedodd Patricia fod neb arall wedi barnu'r Cymry Cymraeg yn Gymraeg o'r blaen, ac mai Datblygu oedd y cyntaf i wneud hynny.
Ychwanegodd mai dyna oedd un o fwriadau David gyda'r band, a'i fod yn benderfynol o gyflawni hynny.
"O'dd neb arall wedi barnu'r Cymry Cymraeg yn Gymrarg o'r blaen, so o'dd hwnna fel un o'r pethe oedd David wastod ishe 'neud.
Yn y bon o'dd y diwylliant yn cario 'mla'n jyst fel o'dd e. Corau meibion, traddodiadol, rock trwm, a o'dd rhaid dod a pethe mewn i'r dyfodol i ca'l rhywbeth i cario 'mla'n yn yr iaith Gymraeg sydd yn perthnasol i ni."
Bydd y casgliad yn cael ei ryddhau ym mis Mawrth.