Eglwys Lloegr yn ymddiheuro am driniaeth 'gywilyddus pobl LHDTCI+'
Mae Eglwys Lloegr wedi ymddiheuro'n ffurfiol am yr adegau "cywilyddus" y mae pobl LHDTCI+ wedi eu "gwrthod neu eu heithrio".
Mae Esgobion Eglwys Lloegr wedi ysgrifennu llythyr yn cyfaddef fod pobl LHDTCI+ wedi eu "siomi" ar adegau ond bod yna "groeso" iddyn nhw a'u bod yn cael eu "gwerthfawrogi".
Daw hyn wedi i'r eglwys ddweud yr wythnos hon y bydd yn bendithio priodasau sifil o'r un rhyw am y tro cyntaf - er na fydd ei safbwynt ar briodas hoyw yn newid a ni fydd cyplau o'r un rhyw yn gallu priodi mewn eglwys.
Fe gyflwynodd yr Eglwys yng Nghymru bolisi tebyg ym mis Medi 2021, er mwyn caniatáu cyplau o'r un rhyw gael bendith briodasol yn eu heglwysi.
Ar y pryd dywedodd Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru, Andy John: “Rhaid i ‘awdurdod y ddoe tragwyddol’ beidio bod yn faen melin o amgylch ein gyddfau ond rhoi sail ar gyfer croesawu’n ddewr yr hyn mae Duw yn ei wneud yn y byd o’n hamgylch."
'Croeso'
Mae'r llythyr a gafodd ei gyhoeddi gan Eglwys Lloegr yn ymddiheuro i'r bobl LHDTCI+ sy'n addoli mewn eglwys, neu sydd ddim yn Gristnogol.
Yn y llythyr, fe ddywedodd yr Esgobion: "Hoffwn ymddiheuro am y ffyrdd y mae Eglwys Lloegr wedi trin pobl LHDTCI+ - y rhai sy'n addoli yn ein heglwysi a'r sawl sydd ddim.
"Am yr adegau yr ydym wedi'r gwrthod neu eich eithrio, a'r sawl chi'n eu caru, mae'n ddrwg iawn gennym ni. Mae'r achlysuron yr ydych wedi derbyn ymateb gelyniaethus neu homoffobig yn ein heglwysi yn gywilyddus ac am hyn fe edifarhawn.
"Wrth i ni wrando, rydym wedi cael gwybod dro ar ôl tro sut y gwnaethom fethu pobl LHDTCI+. Nid ydym wedi'ch caru chi fel y mae Duw yn eich caru, ac mae hynny yn gwbl anghywir.
"Rydym yn datgan, yn gyhoeddus ac yn ddiamod, fod yna groeso i bobl LHDTCI+ a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi: rydym yn blant i Dduw."